Skip to content

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008 (Yn ymwneud â Gofal Cartref)

Dolenni perthnasol

Darparu fframwaith tecach, mwy cyson wrth godi ffïoedd am wasanaethau cymdeithasol dibreswyl yng Nghymru.
Cafodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig (GCD) ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion craffu ar 26 Tachwedd 2007 gan y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. Yr enw arno bryd hynny oedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Rhif 4) 2008.

Cafodd y GCD drafft ei osod gerbron y Cynulliad i'w gymeradwyo ar 12 Mai 2008. Cafodd y GCD ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Mai 2008 a chan y Senedd ar 1 Gorffennaf 2008. Cafodd ei wneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 9 Gorffennaf 2008.

Beth yw diben y GCD?

Ei ddiben yw rhoi cymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud cyfreithiau ar gyfer Cymru, drwy gyfrwng Mesur Cynulliad, mewn perthynas â chodi tâl gan awdurdodau lleol am ofal cymdeithasol amhreswyl (Gofal Cartref).

Beth yw prif elfennau'r GCD?

Mae'r GCD yn ymdrin â'r meysydd pwnc a ganlyn:

  • Taliadau am ofal cymdeithasol amhreswyl sy'n cael ei ddarparu neu ei sicrhau gan awdurdodau lleol.
  • Taliadau uniongyrchol i unigolion er mwyn iddynt hwy, neu i'r bobl sy'n gofalu amdanynt, fedru sicrhau gofal cymdeithasol amhreswyl ar eu cyfer.

Sut mae cael gafael ar ragor o wybodaeth?

I weld y GCD wedi'i gymeradwyo a'r dogfennau ategol, ewch i wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (dolen allanol).

I gael rhagor o wybodaeth am hynt y GCD ac am y gwaith craffu arno, ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol) a gwefannau Senedd y DU (dolenni allanol).

Oes unrhyw Fesurau Cynulliad cysylltiedig?

Cafodd Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2009 ei wneud o dan y cymhwysedd deddfwriaethol a roddir gan y GCD hwn. Am fwy o wybodaeth am y Mesur defnyddiwch y Ddolen Perthnasol.