Skip to content

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Dolenni perthnasol

Mae’r ymgynghoriad hwn yw gofyn am ymatebion i gynnwys arfaethedig y Bil a fydd yn diwygio’r trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru.
Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ y Bil hwn ar 9 Gorffennaf 2012.

Beth yw pwrpas y Bil? 

Bydd Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn sicrhau bod Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu llywodraethu mewn modd mwy agored ac effeithiol, ond, bydd hefyd yn sicrhau bod yr Archwilydd Cyffredinol yn parhau’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad. Bydd yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i swydd yr Archwilydd Cyffredinol presennol, a swyddogaethau archwilio a chraffu swyddi a chyrff datganoledig yng Nghymru.

Beth yw manteision y Bil?

Bydd y Bil yn cryfhau ac yn gwella atebolrwydd yr Archwilydd Cyffredinol a’r Swyddfa Archwilio a’r modd y maent yn cael eu llywodraethu. Bydd yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i swyddogaethau archwilio a gwerth am arian etc yr Archwilydd ac yn diogelu ei annibyniaeth ar yr un pryd.

I gael rhagor o wybodaeth?

Gallwch weld manylion am hynt y Bil ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru