Skip to content

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Bil hwn ar 28 Mai 2012.

Beth yw diben y Bil?

Bydd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn gorfodi busnesau bwyd yng Nghymru i arddangos gwybodaeth am eu safonau hylendid (eu sgôr hylendid bwyd) mewn man lle mae’n hawdd i gwsmeriaid ei gweld.

Cafodd cynllun gwirfoddol ei gyflwyno ym mis Hydref 2010. Mae hwnnw’n rhoi sgôr rhwng ‘0’ (angen gwella ar frys) a ‘5’ (da iawn) yn seiliedig ar sut mae busnes yn cydymffurfio â gofynion y gyfraith bwyd. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr hylendid, ac i awdurdodau lleol weithredu’r cynllun gorfodol yn eu hardal gan sicrhau bod y sgoriau’n cael eu harddangos yn briodol.

Beth yw manteision y Bil?

Bydd arddangos sgoriau hylendid bwyd yn rhoi gwybodaeth hawdd ei deall i gwsmeriaid i’w helpu i benderfynu ble i fwyta neu siopa am fwyd. Bydd hynny’n annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid.

Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Gallwch weld manylion am hynt y Bil ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.