Cyhoeddwyd y Biliau canlynol gan Brif Weinidog Cymru i’w cyflwyno yn ystod y rhaglen ddeddfwriaethol 5 mlynedd.
Mae’n bosibl y bydd teitlau’r Biliau hyn yn newid wrth ddatblygu eu cynnwys.
Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)
Bil ar gyfer symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer llunio is-ddeddfau gyda’r nod o feithrin mwy o gyfrifoldeb am ddeddfau lleol a pherchenogaeth ohonynt.
Cyflwynwyd y Bil ar 28 Tachwedd 2011 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Safonau a Threfn Ysgolion (Cymru)
Bil ar gyfer gwella safonau a pherfformiad o fewn addysg yng Nghymru. Bydd yn newid trefniadau ysgolion, rhoi camau yn eu lle i wella ysgolion, darparu ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg statudol a symleiddio’r ffordd y caiff rhai grantiau eu talu i Awdurdodau Lleol.
Cyflwynwyd y Bil ar 23 Ebrill 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Tyllu Cosmetig (Oedran Cydsynio) (Cymru)
Ar 18 Hydref 2011, dechreuodd ymgynghoriad ar gael barn ar sut i wneud tyllu cosmetig yn fwy diogel i bobl ifanc. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 31 Ionawr 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft
Darparu system o optio allan ar gyfer rhoi organau ac at ddibenion cysylltiedig.
Yn dilyn yr ymgynghoriad Papur Gwyn a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2012, cyhoeddir Bil Drafft ynghyd â Memorandwm Esboniadol ar gyfer ymgynghoriad pellach. Daw’r cyfnod ymgynghori ar gyfer y Bil i ben ar 10 Medi 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bill Datblygu Cynaliadwy (Cymru)
Darparu ar gyfer sefydlu corff annibynnol i barhau â gwaith y Comisiwn ar Ddatblygu Cynaliadwy mewn ffordd sy’n adlewyrchu buddiannau ac anghenion Cymru orau. Sicrhau mai datblygu cynaliadwy yw’r brif egwyddor drefniadol ym mhob un o’n gweithredoedd ar draws y Llywodraeth ac ym mhob corff cyhoeddus yng Nghymru.
Ar 9 Mai, lansiwyd dogfen ymgynghori yn nodi’r cynigion ar gyfer datblygu a chryfhau’r broses o fynd ati i sicrhau datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 18 Gorffennaf (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Tai (Cymru)
Bil ar gyfer cynyddu’r cyflenwad tai a gwella gwasanaethau sy’n ymwneud â thai a hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
Ar 21 Mai 2012, cyhoeddwyd papur ymgynghori gwyn a daw'r ymgynghoriad i ben ar 22 Awst 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Cyhoeddwyd papurau ymgynghori ychwanegol sy’n rhoi rhagor o fanylion am rai o’r cynigion yn y Papur Gwyn.
- Cyhoeddwyd Cynigion ar gyfer Gwell Sector Rhentu Preifat yng Nghymru ar 6 Gorffennaf 2012 a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Awst (gweler y Ddolen Berthnasol).
- Cyhoeddwyd y Dreth Gyngor a Chartrefi Gwag Hirdymor ar 31 Gorffennaf 2012 a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 20 Hydref (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Bil iechyd y cyhoedd ar gyfer gwneud trefniadau gorfodol syml syml er mwyn rhoi gwybodaeth hawdd ei dddeall i ddefnyddwyr ar safonau hylendid busnesau bwyd. Cyhoeddwyd y Bil hwn ar ffurf ddrafft ar 14 Rhagfyr 2011. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 7 Mawrth 2012.
Cyflwynwyd y Bil ar 28 Mai 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Bil ar gyfer sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru a gwneud darpariaeth ynghylch Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyhoeddwyd y Bil hwn ar ffurf ddrafft ar 15 Mawrth 2012. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 15 Mai 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)
Darparu fframwaith cyfreithiol cydlynol er mwyn trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a darparu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Mehefin 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Cyhoeddir ymgynghoriad yn 2012 i ystyried y sail ddeddfwriaethol ar gyfer cynyddu disgwyliad oes a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Bil Democratiaeth Leol (Cymru)
Bil ar gyfer diwygio strwythur a swyddogaethau Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol ac ar gyfer y broses o benodi ac ariannu Swyddogion Canlyniadau.
Ar 17 Mai 2012, cyhoeddwyd papur ymgynghori gwyn a daw'r ymgynghoriad i ben ar 3 Awst 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Cynllunio (Cymru)
Cryfhau’r ddeddfwriaeth gynllunio bresennol, ei gwneud yn fwy tryloyw a helpu i sicrhau adfywiad economaidd. Bydd Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi tua diwedd 2012.
Bil Llywodraeth Leol (Mesurau Cydlafurio) (Cymru)
Cynorthwyo awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gydweithredu er mwyn gwella’r gwasanaethau a ddarperir. Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ddatganiad llafar yn y cyfarfod llawn ar 24 Ionawr ynghylch Compact Simpson â Llywodraeth Leol a chyhoeddodd na fyddai’r Bil hwn yn cael ei gyflwyno.
Bil Teithio Llesol (Cymru)
Gwella ac estyn y rhwydwaith o lwybrau yng Nghymru sy’n ddiogel ac yn addas ar gyfer cerdded a beicio.
Cyhoeddwyd Papur Gwyn ymgynghori ar 9 Mai, a daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Awst.
Bil Treftadaeth (Cymru)
Bil ar gyfer moderneiddio a symleiddio’r system reoli ar gyfer gwarchod ein hasedau hanesyddol.
Bil yr Amgylchedd (Cymru)
Darparu ar gyfer system fwy integredig ar gyfer rheoli’r amgylchedd yng Nghymru gan roi mwy o bwyslais ar warchod ein hamgylchedd, ar fwy o fuddiannau cymdeithasol ac economaidd a darparu hefyd ar gyfer dibenion cysylltiedig.
Bil Addysg (Cymru)
Bydd y Bil hwn yn darparu ar gyfer systemau rheoli perfformiad gwell i athrawon, diwygio’r system bresennol o ddatganiadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig.
Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)
Yn ogystal â’r Datganiad Deddfwriaethol a gyhoeddwyd ar 12 Gorffennaf 2011, bydd y Bil hwn yn rhoi ar waith llawer o argymhellion Adroddiad Humphreys ar lywodraethu Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru. Bydd hefyd yn gwneud newidiadau i strwythur y corff sy’n gyfrifol am ariannu ac am gynlluniau strategol Addysg Uwch a dibenion cysylltiedig eraill.
Cyhoeddwyd Papur Gwyn ymgynghori ar 2 Gorffennaf, a daw’r ymgynghoriad i ben ar 24 Medi 2012 (gweler y Ddolen Berthnasol).
Bil Atal Troseddau Ieuenctid (Cymru)
Bil er mwyn cryfhau’r broses o ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy’n rhan o’r system cyfiawnder ieuenctid a darparu ar gyfer dibenion cysylltiedig.
Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
Ehangu rôl Comisiynydd Plant Cymru a darparu ar gyfer dibenion cysylltiedig.
Bil Cam-drin Domestig (Cymru)
Rhoi dyletswydd ar y cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus i baratoi strategaeth cam-drin ddomestig a ‘thrais yn erbyn menywod’ ac i’w chefnogi.
Bil Compactau Statudol y Trydydd Sector (Cymru)
Bil ar gyfer gwneud trefniadau compact y trydydd sector rhwng awdurdodau lleol a chyrff cyfryngol y trydydd sector yn ofyniad statudol os yw’r dystiolaeth a’r ymgynghoriad yn dangos bod angen deddfwriaeth.