Skip to content

Gwneud Deddfwriaeth yng Nghymru – flwyddyn yn ddiweddarach

Dolenni perthnasol

Ar 3 Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl ledled Cymru yn y refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r adran hon yn dilyn trywydd y refferendwm yng Nghymru.
Heddiw, croesawodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y bleidlais "Ie" hanesyddol a fydd yn rhoi mwy o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ar 3 Mawrth 2011, cafwyd pleidlais ‘ie’ gan bobl ledled Cymru yn y refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i Rhaglen Ddeddfu, sy’n rhaglen uchelgeisiol dros gyfnod o bum mlynedd. Nod y rhaglen hon, sy’n cyflawni dros Gymru, yw creu amodau addas ar gyfer gwella addysg, gofal cymdeithasol, tai a’r amgylchedd, a sicrhau llywodraeth leol fwy effeithiol ac effeithlon.

Rhwng 2011 a Mawrth 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 108 o drafodaethau a phapurau ymgynghori, a oedd yn rhoi’r cyfle i bobl Cymru gyfrannu at y gwaith o lunio ein dyfodol. Mae’r ddogfen isod yn rhoi sylw i beth o’r gweithgarwch a gafwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o ran cysylltu â thrafod a’r cyhoedd. I gael gwybod sut y gallwch chi ddweud eich dweud, defnyddiwch y ddewislen uchod i fynd i’n tudalennau ymgynghori.