Skip to content

Cylch gwaith y Panel

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Cylch gwaith y Panel

Amlinellir cyfrifoldebau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol isod.

Adroddiadau Blynyddol

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i’r Panel lunio Adroddiad Blynyddol sy’n nodi’r math a’r lefelau o daliadau y mae awdurdodau’n gallu neu’n gorfod eu gwneud i’w haelodau ac i aelodau cyfetholedig. Mae’r Panel yn gallu pennu symiau gwahanol ar gyfer cynghorau gwahanol.

Mae’n rhaid llunio pob Adroddiad Blynyddol erbyn 31 Rhagfyr cyn y flwyddyn y mae’r adroddiad yn berthnasol iddi. 

Adroddiadau Atodol

Gall y Panel lunio Adroddiadau Atodol unrhyw amser.

Gofynion ar gyfer y Panel

Wrth baratoi ei adroddiadau, mae’n rhaid i’r Panel ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod perthnasol.

Mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel ymgynghori â Gweinidogion Cymru, awdurdodau perthnasol a phartïon â buddiant cyn cwblhau’r Adroddiad Blynyddol a’r Adroddiad Atodol. Mae’n rhaid aros o leiaf wyth wythnos rhwng cyhoeddi copi drafft o adroddiad blynyddol neu atodol a chyhoeddi’r copi terfynol. Gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Panel i ailystyried cynnwys adroddiad drafft. Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru nodi eu rhesymau am gyhoeddi’r cyfarwyddyd a phennu dyddiad ymateb. Nid oes ymrwymiad ar y Panel i newid y copi drafft, ond mae’n rhaid iddo ymateb a nodi ei reswm dros beidio â’i newid.

Cyhoeddi adroddiadau 

Mae pob adroddiad sy’n cael ei lunio gan y Panel ar gael ar wefan Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae’n rhaid i’r Panel anfon copi o bob adroddiad at Weinidogion Cymru, yr awdurdodau perthnasol a phartïon eraill â buddiant.