Skip to content

Bywgraffiadau a Datganiadau o Fuddiant Aelodau’r Panel

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Bywgraffiadau a Datganiadau o Fuddiant Aelodau’r Panel

Gwybodaeth am pum aelod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Richard Penn  

Richard Penn (Cadeirydd)

Bywgraffiad

Mae Richard Penn yn gyn brif weithredwr Cyngor Dinas Bradford a  Chyngor Bwrdeistref Knowsley, ar ôl dechrau ei yrfa mewn llywodraeth leol gyda'r hyn oedd ar y pryd yn Gyngor Sir Morgannwg yn 1971. Roedd yn Gomisiynydd Safonau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 2000 a 2010 ac mae wedi gwasanaethu hefyd fel Cadeirydd Bwrdd Prawf De Cymru ac fel Comisiynydd gyda'r Comisiwn Cyfle Cyfartal a hefyd gyda'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. O bryd i'w gilydd mae Mr Penn yn cyflawni gwaith ymgynghori ar gyfer awdurdodau lleol ac mae hefyd yn cynghori ac yn cynrychioli prif weithredwyr a chyfarwyddwyr awdurdodau lleol yn eu cysylltiadau cyflogaeth gyda'r awdurdodau sy'n eu cyflogi. Mae'n Rheolwr Cyffredinol (rhan-amser) Bwrdd Draenio Mewnol  Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg.  Ers ei sefydlu yn 2008, mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Datganiad o Fuddiant

O bryd i'w gilydd mae'n cyflawni gwaith ymgynghori ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae hefyd yn cynghori ac yn cynrychioli prif weithredwyr a chyfarwyddwyr awdurdodau lleol yng Nghymru yn eu cysylltiadau cyflogaeth gyda'r awdurdodau sy'n eu cyflogi. Rheolwr Cyffredinol Dros Dro (rhan amser) [Awst 2011 - presennol], Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg.

 John Bader 

Mr David John Bader

Bywgraffiad

Roedd John Bader yn Gyfarwyddwr yr hyn a oedd ar y pryd yn Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio Llywodraeth Cynulliad Cymru tan ei ymddeoliad yn 2005.  Am 6 mlynedd roedd yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth Tai Cymunedol Somer.  Mae'n Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd, yn aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, yn aelod o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig.  Ers ei sefydlu yn 2008, mae hefyd wedi bod yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Datganiad o Fuddiant

Mae John Bader yn Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Tai Casnewydd, yn aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, yn aelod o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig. 

Anne Abel

Anne Abel

Bywgraffiad

Mae Anne Abel wedi cael gyrfa hir sydd wedi para mwy na hanner can mlynedd yn y sector cyhoeddus. Bu'n gwasanaethu fel swyddog llywodraeth leol mewn gwasanaethau plant, addysg oedolion ac addysg bellach ac adnoddau dynol mewn amrywiol awdurdodau lleol yn Lloegr cyn ymsefydlu yng Nghymru yn 1990.  Ei swydd amser llawn olaf oedd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol o fewn Syniad yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, lle bu'n cynghori ar ddysgu, datblygu a chydraddoldeb ar gyfer cynghorau yng Nghymru gan arbenigo mewn cyfleoedd datblygu ar gyfer cynghorwyr.

Cafodd ei phenodi yn aelod annibynnol o Awdurdod Heddlu De Cymru yn 2008 lle bu'n dal nifer o swyddi gan gynnwys Cadeirydd nifer o Baneli a Phwyllgorau gan ddod â'i gwasanaeth i ben fel Is-gadeirydd yr awdurdod cyn iddo gael ei ddirwyn i ben yn 2012.  Cyn hynny roedd yn aelod o Fwrdd Prawf De Cymru (Ymddiriedolaeth Heddlu De Cymru yn ddiweddarach). Mae Anne Abel wedi cyfrannu at y gymuned hefyd fel Ymddiriedolwr ac Is-Gadeirydd elusen gofrestredig sy'n ymwneud ag adsefydlu rhai gyda phroblemau alcohol.

Datganiad o Fuddiant

Mae Anne Abel yn Is-gadeirydd canolfan adsefydlu Brynawel.

Mr Gregory Owens

Mr Gregory Owens

Bywgraffiad

Roedd Gregory Owens yn Gynghorydd Sir Caerdydd am 13 mlynedd hyd at 2008 a bu'n gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau gwahanol y Cyngor.  Y tu allan i'r Cyngor, yn broffesiynol, roedd yn Brif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion ac yn Brif Ymgynghorydd ysgolion ar gyfer awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful am bum mlynedd nes iddo ymddeol yn 2012.  Cyn hynny roedd yn uwch-gynghorydd awdurdod lleol ar gyfer ysgolion ac addysg.  Mae'n gwasanaethu fel Arolygydd tîm Estyn ac Arolygydd Cofrestredig Ysgolion.  Mae'n un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Cwrt Insole a gynt roedd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd (1996-2004), ac yn aelod o fwrdd Gŵyl Ryngwladol Theatr Gerddorol Caerdydd y BBC (1999-2004).

Datganiad o Fuddiant

Mae Gregory Owens yn Arolygydd Ysgolion Cofrestredig ac o bryd i'w gilydd mae'n ymgymryd â gwaith ar gyfer Estyn [Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru] gan arolygu ac adrodd ar safonau mewn ysgolion yng Nghymru.  Mae'n un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Cwrt Insole (Caerdydd), yn aelod o Grŵp Cynghori Cadwraeth Llandaf a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Mae'n aelod o'r Blaid Lafur ac yn cadeirio cangen leol Llandaf.

Mae chwaer Gregory Owens, Mrs Carole O'Toole, yn aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mr Stephen Mulholland

Mr Stephen Mulholland

Bywgraffiad

Yn gynnar yn ei yrfa  gwasanaethodd Stephen fel Cynghorydd Sir am 8 mlynedd, ac yna treuliodd ddwy flynedd fel Prif Asiant Rhanbarthol ar gyfer un o'r prif bleidiau gwleidyddol.  Ers hynny, mae ei ffocws wedi bod ar y lefel leol a'r gymuned, gan gynnwys rheoli Cyfrifiad 2011 o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful .  Ef oedd Rheolwr Rhanbarthol y RSPCA yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr am 13 mlynedd ac yna treuliodd 5 mlynedd fel Cyfarwyddwr Cymru a'r Gororau gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd, yn diogelu iechyd y cyhoedd a lles anifeiliaid drwy reoleiddio'r diwydiant cig.