Diffiniadau hyd at Ragfyr 2010
Y Lwfans Sylfaenol
Dyma’r cyflog sy’n cael ei dalu i gynghorwyr gan y cyngor. Mae’n rhaid talu’r un swm i bawb.
Y Lwfans Gofal
Mae’r lwfans hwn ar gael i helpu i dalu treuliau sy’n deillio o drefniadau gofal ar gyfer plant ac oedolion dibynnol (megis gofal ar gyfer perthynas oedrannus), tra bod cynghorwyr yn cyflawni eu dyletswyddau.
Lwfans Aelodau Cyfetholedig
Mae’r lwfans hwn yn daladwy i aelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio mewn cyfarfodydd pwyllgor. Bydd hyn yn cynnwys aelodau cyfetholedig o Bwyllgorau Safonau, Pwyllgorau Addysg a Phwyllgorau Trosedd ac Anhrefn awdurdodau lleol.
Cynghorydd
Rhywun sydd wedi’i ethol yn gynghorydd sir neu’n gynghorydd bwrdeistref sirol mewn etholiad llywodraeth leol.
Aelodau
Cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio.
Cyngor
Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Y Panel
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Y Lwfans Cyfrifoldeb Arbennig (SRA)
Mae’r lwfans hwn ar gael i gynghorwyr sydd â chyfrifoldeb arbennig, fel Arweinydd y Cyngor neu Gadeirydd Pwyllgor Craffu. Mae’r swm sy’n daladwy yn adlewyrchu cyfrifoldeb y swydd. Dim ond un SRA y gall cynghorydd ei dderbyn, waeth faint o swyddi sydd ganddo. Ym mhob cyngor lleol ni all mwy na 50% o’r holl gynghorwyr dderbyn SRA. Mae hynny’n golygu na fydd pob cynghorydd sydd â chyfrifoldeb arbennig o reidrwydd yn derbyn y lwfans hwn.
Y Lwfans Cynhaliaeth
Lwfans i dalu am brydau bwyd yw hwn fel arfer, ond gellir ei ddefnyddio i dalu am lety pan fydd yn rhaid mynd oddi cartref dros nos.
Y Lwfans Teithio
Mae’r lwfans hwn yn daladwy am waith cyngor nad yw’n cynnwys gwaith etholaeth.
