Diffiniadau ar ôl Rhagfyr 2010
Lwfans
Y swm gwirioneddol neu’r uchafswm y gellir ei ad-dalu i aelodau ac aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol ar gyfer treuliau hanfodol wrth gyflawni busnes swyddogol yr awdurdod.
Awdurdod
Awdurdod perthnasol yng Nghymru yn ôl diffiniad Adran 144(2) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, gan gynnwys awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol), Awdurdod Parc Cenedlaethol ac Awdurdod Tân ac Achub Cymru.
Cyflog sylfaenol
Mae modd cyfyngu hyn i “Cyflog Sylfaenol ALl” i gyfeirio at gyflog sylfaenol aelod o awdurdod lleol; “Cyflog Sylfaenol PC” i gyfeirio at gyflog sylfaenol aelod o Barc Cenedlaethol; a “Cyflog Sylfaenol ATA” i gyfeirio at gyflog sylfaenol aelod o Awdurdod Tân ac Achub Cymru.
Y Lwfans Gofal
Mae’r lwfans hwn ar gael i helpu i dalu treuliau sy’n deillio o drefniadau gofal ar gyfer plant ac oedolion dibynnol (megis gofal ar gyfer perthynas oedrannus), tra bod cynghorwyr yn cyflawni eu dyletswyddau.
Drafft ymgynghori
Copi drafft o adroddiad blynyddol y Panel o dan Adran 146 (7) neu 147(8) o’r Mesur lle mae’n rhaid i’r Panel ystyried sylwadau.
Awdurdod cyfansoddol
Awdurdod lleol o fewn ardal Awdurdod Parc Cenedlaethol a/neu Awdurdod Tân ac Achub Cymru.
Aelod cyfetholedig
Unigolyn sy’n cael ei benodi i bwyllgor neu is-bwyllgor ond nad yw’n gynghorydd etholedig ac sydd â hawliau pleidleisio.
Ffi aelod cyfetholedig
Taliad o fewn fframwaith ffioedd cyfradd ddyddiol.
Aelod
Cynghorwyr cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, unigolyn a benodir i Awdurdod Parc Cenedlaethol gan awdurdod cyfansoddol ac unigolion a benodir gan Weinidogion Cymru; ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Cymru, aelod a benodir gan awdurdod cyfansoddol.
Busnes swyddogol
Mater y mae aelod yn ymgymryd ag ef fel aelod o awdurdod perthnasol neu fel aelod o gorff y mae’r aelod wedi’i benodi iddo gan yr awdurdod perthnasol, neu grŵp o gyrff yn cynnwys yr awdurdod perthnasol.
Y Panel
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth yn unol â diffiniad adran 141(1) ac atodlen 2 i’r Mesur.
Awdurdod perthnasol
Awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol ac Awdurdod Tân ac Achub Cymru.
Uwch gyflog
Taliad am gyfrifoldebau penodol aelod o awdurdod lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub Cymru, sy’n cynnwys y Cyflog Sylfaenol.
Lwfans teithio a chynhaliaeth
Ad-dalu gwariant aelod neu aelod cyfetholedig wrth gyflawni busnes swyddogol yr awdurdod.
Blwyddyn
Mae’r ystyron canlynol yn berthnasol:
- blwyddyn ariannol – cyfnod deuddeg mis sy’n dod i ben 31 Mawrth;
- blwyddyn galendr - cyfnod deuddeg mis sy’n dod i ben 31 Rhagfyr;
- blwyddyn y Cyngor - y flwyddyn sy’n dechrau ar ddyddiad cyfarfod blynyddol yr awdurdod lleol ac yn gorffen ar y diwrnod cyn cyfarfod blynyddol y flwyddyn ganlynol; ar gyfer Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, y cyfnod hwn yw deuddeg mis ar ôl cyfarfod blynyddol yr awdurdod.
