Cefndir
Mae’r Panel yn annibynnol ar lywodraeth ganolog a lleol ac fe’i sefydlwyd fel corff parhaol, yn y lle cyntaf i benderfynu ystod a lefelau lwfansau sy’n daladwy i gynghorwyr cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio.
Mae cylch gwaith y Panel wedi ymestyn yn ddiweddar o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 [‘Y Mesur’], ac mae bellach yn cynnwys aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub Cymru a chynghorau cymuned a thref yng Nghymru.
Cafodd cylch gwaith y Panel ei ymestyn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 [‘Y Mesur’], ac mae bellach yn cynnwys aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub Cymru a chynghorau cymuned a thref yng Nghymru.
Mae’r Panel yn cynnwys:
- y Cadeirydd (a benodwyd gan y Gweinidog) - Richard Penn; a
- Pedwar aelod arall - John Bader, Anne Abel, Gregory Owens a Stephen Mulholland.
Penodir aelodau’r Panel am hyd at bedair blynedd ac mae modd eu hail-benodi.
Mae’r Panel wedi’i gategoreiddio fel corff Band 2 yn unol â gofynion Adroddiad Adolygiad o’r Gydnabyddiaeth a’r Treuliau a Roddir i Gadeiryddion ac Aelodau o Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad a Chyrff y GIG. Mae’r cyfraddau dyddiol canlynol yn daladwy i aelodau corff Band 2:
- Cadeirydd - £256 y dydd.
- Is-gadeirydd - £226 y dydd.
- Aelodau - £198 y dydd.
Mae bod yn aelod o’r Panel yn cael ei ystyried yn swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am dalu treuliau aelodau’r Panel pan eu bod yn cyflawni eu swyddogaethau, ac mae’n darparu cymorth gweinyddol.
