Skip to content

Help

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Help
Y bwriad bob amser yw eich helpu i gael ymweliad hwylus a llawn gwybodaeth â gwefan yw Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Aethom ati gyda grŵp o wirfoddolwyr o bob rhan o Gymru i brofi pob rhan o’r wefan ar ei newydd wedd. O benderfynu ar ba feysydd Pwnc i’w defnyddio, i ddewis cynlluniau a lliwiau tudalennau, ein defnyddwyr fu'n gyfrifol am wneud pob penderfyniad ar ein rhan.

Os cewch unrhyw broblemau gyda’r wefan neu os oes gennych unrhyw sylwadau, anfonwch e-bost i: webmaster@wales.gsi.gov.uk

Defnyddio’r wefan …

Opsiynau mynediad

Opsiynau mynediadUn o'r prif resymau dros ailddylunio’r wefan oedd ei gwneud yn fwy hygyrch ac yn haws ei defnyddio. Un ffordd a ddefnyddiwyd gennym i sicrhau hyn oedd cynnwys Opsiynau Mynediad. Mae’r rhain yn caniatáu ichi deilwra’r ffordd yr ydych yn gweld y wefan fel sydd orau gennych chi.
Opsiynau mynediad

Bysellau mynediad

Rydym wedi mynd ati i greu Bysellau Mynediad all eich helpu i symud o amgylch y safle gan ddefnyddio eich bysellfwrdd yn lle eich llygoden. Mae llawer o bobl yn dewis peidio â defnyddio llygoden i bori drwy wefannau ac rydyn ni wedi ceisio dewis bysellau na fyddant yn ymyrryd â swyddogaethau eraill y bysellfwrdd.
Bysellau mynediad

Chwilio’r wefan …

Map o’r wefan

Mae’r map o’r wefan yn dangos y wefan yn ei chyfanrwydd. Mae pob gair ar y dudalen yn gyswllt, ac mae pob cyswllt yn mynd i dudalen fyw.
Ceisiwch ddod o hyd i wybodaeth drwy’r map o’r wefan pan fyddwch am weld pob tudalen o dan faes Pwnc heb orfod clicio o amgylch y wefan.
Map o'r wefan 

A i Y

Mae A i Y yn ffordd boblogaidd o ddod o hyd i wybodaeth pan fyddwch yn gwybod beth yn union rydych chi’n chwilio amdano. Ceisiwch ddod o hyd i’r gair yr ydych yn chwilio amdano yn yr adran A i Y ac, os yw yno, cliciwch arno i fynd i’r dudalen berthnasol. Os na allwch ddod o hyd i’r gair yr ydych yn chwilio amdano yn yr adran A i Y, rhowch gynnig ar y cyfleuster chwilio.
A i Y

Chwilio

Bwriad y cyfleuster chwilio yw dod o hyd i ganlyniadau sy’n gysylltiedig ag unrhyw dermau y byddwch yn eu teipio i mewn. Mae yna gyfleuster chwilio syml ar frig pob tudalen. Nodwch y gair yr ydych yn chwilio amdano yn y blwch chwilio a chliciwch ar eicon y chwyddwydr.

Os nad yw eich chwiliad yn gweithio, gofynnir ichi roi cynnig ar chwiliad manwl. Mae’r chwiliad manwl yn caniatáu ichi ffiltro canlyniadau eich chwiliad yn ôl y math o gynnwys, lleoliad, adran neu bwnc.
Chwiliad manwl