Skip to content

Garddio gydag ysgolion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ailgreu un o astudiaethau achos y prosiect Garddio gydag Ysgolion

Mae 32 o brosiectau garddio ar hyd a lled Cymru wedi'u cynnwys yn y llyfryn.  Mae'r gweithgareddau'n cynnwys creu gwelyau blodau a crogfasgedi a thyfu pob math o lysiau.

Sefydlwyd y prosiect Garddio gydag Ysgolion gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yn 2005.  Maent wedi rhoi cyfle i ysgolion cynradd gael profiad ymarferol o greu ardaloedd llysiau a bywyd gwyllt.  Roedd hyn yn golygu cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol fel plannu, hau a chadw gardd.

Ers i'r prosiect gael ei sefydlu, mae aelodau Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched wedi rhoi cymorth gwirfoddol i dros 100 o ysgolion ddatblygu a / neu gadw'r gerddi yn eu hysgolion.