- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Cystadleuaeth y dosbarth di-fwg
Telerau ac Amodau
Mae'r gystadleuaeth yn rhedeg rhwng mis Rhagfyr a mis Mai bob blwyddyn. Mae angen i'r cydlynydd ysgol ddosbarthu copïau o'r ffurflenni ac atgoffa dosbarthiadau i'w cyflwyno mewn pryd. Mae manylion pob dosbarth sy'n cymryd rhan yn cael eu rhoi mewn tair raffl fawr sy’n cynnig cyfle i ennill gwobr ariannol, a bydd pob cyfranogwr yn derbyn cofrodd ar ddiwedd y gystadleuaeth.
Amcanion y gystadleuaeth yw:
- annog plant i beidio ag arbrofi â thybaco;
- helpu'r rhai sy'n arbrofi i beidio â dechrau smygu'n rheolaidd;
- dangos yn glir nad smygu yw'r norm;
- annog trafodaeth am aros yn ddi-fwg.
Meini prawf cystadlu
- Mae'r gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion Blwyddyn 7 ac 8.
- Rhaid i o leiaf 90% o'r dosbarth gystadlu.
- Rhaid i o leiaf 80% orffen y gystadleuaeth.
- Ni ddylid rhoi pwysau ar neb i gystadlu.
Amserlen
Cyn 4 Chwefror
- Ymrwymo nifer y disgyblion ym mhob dosbarth drwy bostio eich ffurflen ymrwymiad gyntaf.
- Defnyddio’r daflen gweithgaredd gyntaf – Pecynnau plaen.
Cyn 4 Mawrth
- Ymrwymo nifer y disgyblion ym mhob dosbarth drwy bostio eich ail ffurflen ymrwymiad.
- Defnyddio’r ail daflen gweithgaredd – Smygu pan fyddwch yn feichiog ac wedi hynny.
Cyn 8 Ebrill
- Ymrwymo nifer y disgyblion ym mhob dosbarth drwy bostio eich trydedd ffurflen ymrwymiad.
- Dyfarnu’r gwobrau ariannol cyntaf.
- Defnyddio’r drydedd daflen gweithgaredd – Smygu a ffitrwydd.
Cyn 6 Mai
- Ymrwymo nifer y disgyblion ym mhob dosbarth drwy bostio eich ffurflen ymrwymiad olaf.
- Dyfarnu’r ail wobrau ariannol.
- Defnyddio’r daflen gweithgaredd olaf – Ceir di-fwg.
- Rhaid cyflwyno pob enghraifft nodedig o waith sy’n deillio o daflen gweithgaredd ar gyfer y gystadleuaeth unigol/grŵp.
Nodyn pwysig
Gyda chymorth y pedwar cynllun gwers, mae angen i'r athro hybu trafodaeth am fanteision aros yn ddi-fwg. Mae trafodaeth ac anogaeth ysgafn yn rhan angenrheidiol a derbyniol o'r gystadleuaeth; ond mae gorfodi neu fwlio yn annerbyniol.
Gallai fod o gymorth i drafod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn anogaeth, yn hytrach na bwlio, a llunio siarter o ymddygiad derbyniol ar gyfer y gystadleuaeth. Mae'n dderbyniol siarad am fanteision aros yn ddi-fwg ac am beryglon arbrofi, gan annog y rhai sy'n arbrofi i ailfeddwl. Nid yw'n dderbyniol galw enwau ar unigolion oherwydd eu bod yn smygu neu eu cyhuddo o ddweud celwydd os ydyn nhw'n llofnodi'r ffurflen ymrwymiad bob mis ond bod amheuaeth eu bod yn arbrofi.
Cadwch gofnod o lofnodion y disgyblion sy'n cymryd rhan, er mwyn i chi allu gwirio eu cyfranogiad os bydd eich dosbarth yn ennill gwobr.
Manylion cyswllt
I gael gwybodaeth am y gystadleuaeth, cysylltwch â Rhiannon drwy ffonio 02920 694900 neu drwy anfon e-bost smokefree@quadrant.uk.com
