- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Clwb BygiauBaco!
Dolenni perthnasol
Bob tri mis, byddwn yn anfon cylchgrawn Bygiau Baco! at yr aelodau. Mae’n llawn hanesion, posau a chystadlaethau am fanteision aros yn ddi-fwg a materion yn ymwneud â smygu. Byddwn yn ei bostio’n syth i gyfeiriad cartref yr aelod, ynghyd â phecyn aelodaeth difyr iawn.
Os hoffai eich disgyblion neu eich plant eich hun ymuno â’r clwb, gallwch:
- Ymuno ar-lein neu
- Lawrlwytho’r ffurflen gais a’i hanfon at y cyfeiriad canlynol Ceisiadau BygiauBaco, Research and Marketing Plus, Trefor House, Ocean Way, Caerdydd, CF24 5RE.
Rhaid i ddisgyblion drafod ymuno â’r clwb â’u rhieni, gofalwr neu warcheidwad. Rhaid i’r rhiant, y gofalwr neu’r gwarcheidwad lofnodi’r ffurflenni ac yna’u hanfon yn ôl i’r cyfeiriad uchod.
Os ydych yn gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen ar-lein rhaid i rieni, gofalwyr neu warcheidwaid awdurdodi’r ffurflen gais drwy roi eu henw llawn a’u dyddiad geni ar y ffurflen.
Os ydych eisoes yn aelod o BygiauBaco! ac yn awyddus i ysgrifennu am y cylchgrawn, gallwch:
- Anfon e-bost at Bili’r Byg yn billy@smokebugs.co.uk, neu
- Ysgrifennu at Bili’r Byg, Villa House, 7 Herbert Terrace, Penarth, CF64 2AH.
