Skip to content

Undeb Rygbi Cymru

Yn ystod 2006, datblygodd Undeb Rygbi Cymru adnodd DVD i ysgolion o’r enw ‘Chips or Champs’.

Ers hynny, mae chwaraewyr o’r tîm cenedlaethol wedi bod yn ymweld ag ysgolion yng Nghymru i ddysgu dosbarthiadau sut i fyw bywydau mwy iach.

Mae Undeb Rygbi Cymru wrthi’n cynnal nifer o weithgareddau eraill mewn ymateb i Her Iechyd Cymru.

Mae’r Undeb wedi cynnal cystadlaethau i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rygbi fel twrnameintiau rygbi ‘tag’ a Tharian Dewar ar gyfer plant dan 15 oed.

Mae hefyd yn hyrwyddo’r Her yn ei raglenni ar gyfer gêmau, yn negeseuon y cadeirydd, ar sgrin fawr Stadiwm y Mileniwm ac ar y byrddau hysbysebu wrth ochr y maes. Yn ogystal, mae chwaraewyr o’r tîm cenedlaethol wedi cymryd rhan yn hysbysebion Her Iechyd Cymru, ac mewn mentrau lleol cysylltiedig fel Going for Gold yng Nghasnewydd.

Hefyd, fel rhan o’i fenter ddiweddaraf, mae Undeb Rygbi Cymru’n cyfrannu at ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau.

Brwydro’r Braster

Prosiect yw hwn gan Undeb Rygbi Cymru a Her Iechyd Cymru,  sy’n ceisio dangos shwt mae dewisiadau iawn yn gallu helpu’ch bywyd bob dydd.  Yn hanesyddol, dyw safon iechyd pobl Cymru ddim wedi bod yn uchel iawn, ond mae’n bosibl gwella’r sefyllfa.  Os ’ych chi’n fodlon gwneud rhywbeth nawr, fe alle fe fod yn bwysig yn y dyfodol.

Ma’ch ymwelydd heddiw yn aelod o dîm cenedlaethol Cymru ac mae e am ddangos rhai o arferion dyddiol ei gydchwaraewyr i chi. Ond mewn gwirionedd, nid gwers yw hon am chwaraewyr rygbi. Mae hyn i gyd yn bwysig i chi – y bwyd ’ych chi’n dewis ei fwyta a’r ymarfer corff ych chi’n fodlon ei wneud.  Felly gwrandewch ar y straeon, a chofiwch ofyn i’ch ymwelydd beth mae e’n dewis i aros yn iach.

Lawrlwytho: Robin McBryde – Amser brecwast [5.2MB]
Lawrlwytho: Beic [4.7MB]
Lawrlwytho: Grisiau [4.6MB]
Lawrlwytho: Oergell [3.4MB]
Lawrlwytho: Diwrnod 4: Y Gwersyll Ymarfer [6.2MB]
Lawrlwytho: Archfarchnad [7MB]
Lawrlwytho: Diwedd [1MB]

Mae trawsgrifiadau ar gael hefyd.

Ewch i: WRU (cyswllt allanol)