- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Alcohol
Dolenni perthnasol
I lawer o bobl, mae cael diod neu ddwy yn rhan bwysig o’u bywyd cymdeithasol.
Er ei bod yn bosibl na fydd ychydig o ddiodydd yn gwneud niwed i’ch corff, gall goryfed gael canlyniadau difrifol – ar eich iechyd, eich perthynas ag eraill, ac ar eich gyrfa.
Faint y gallaf ei yfed?
Fel rheol caiff alcohol ei fesur mewn unedau, ac mae hanner peint o lager yn cyfateb yn fras i un uned. Gan fod diodydd yn amrywio o ran cryfder a maint, mae gan wahanol ddiodydd wahanol nifer o unedau.
Bydd nifer yr unedau y gallwch eu hyfed yn dibynnu ar lawer o bethau, megis eich maint, oedran a’ch rhyw. Hyd yn oed os cadwch at y cyfyngiadau a restrir isod, mae’n syniad da cael un neu ddau ddiwrnod di-alcohol bob wythnos.
- Gall dynion yfed 3 i 4 uned y diwrnod yn ddiogel, ond dim mwy nag 21 o unedau yr wythnos. I ddynion dros eu 40, gall 1 neu 2 uned o alcohol y diwrnod helpu i atal clefyd coronaidd y galon;
- Gall menywod yfed 2 neu 3 uned y diwrnod, ond ni ddylent yfed mwy na 14 o unedau yr wythnos. Gall menywod sydd wedi mynd trwy’r menopos yfed 1 neu 2 uned y diwrnod i helpu i atal clefyd coronaidd y galon.
Peidiwch ag anghofio! Os ydych yn feichiog neu’n mynd i yrru, gwell peidio ag yfed o gwbl.
Beth os wyf yn yfed mwy?
Gall goryfed trwm fod yn beryglus. Pan ydych yn feddw, rydych yn fwy tebygol o gael eich anafu’n gorfforol - trwy drais, damweiniau, a rhyw heb ddiogelwch. Gall goryfed hefyd achosi damweiniau megis gwenwyno alcohol acíwt neu anadlu cyfog pan ydych yn anymwybodol - pethau sy’n gallu lladd.
Gall goryfed dros gyfnod hwy achosi niwed i’ch afu, eich stumog a’ch ymennydd a allai fod yn fygythiad i’ch bywyd. Gall hefyd achosi problemau cymdeithasol a seicolegol difrifol megis iselder ysbryd, anhunedd, a gall ei gwneud yn anodd cynnal cysylltiadau proffesiynol a phreifat.
Dolenni cysylltiedig allanol
DAN 24/7 (Llinell gymorth Cymru ar gyffuriau ac alcohol)
Cyfrifiannell unedau (Saesneg yn unig)
Alcohol Concern (Saesneg yn unig)
Alcoholics Anonymous (Saesneg yn unig)
