Skip to content

Diogelwch mewn dŵr

Wrth ymweld â’r traeth, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r rhwystrau posibl

Mae miloedd o bobl yn mwynhau treulio amser ar draethau o amgylch Cymru bob blwyddyn. Ond gydag 20 y cant o’r achosion o foddi yn digwydd yn nyfroedd yr arfordir, bydd bod yn ymwybodol o’r peryglon a gallu adnabod peryglon posibl yn sicrhau y cewch  ymweliad hapus â’r traeth ac na fydd yn troi i fod yn drasiedi.

Pan fyddwch chi’n ymweld â’r traeth, yn enwedig os oes gennych chi blant gyda chi, ystyriwch y canlynol:

  • Sylwch a oes achubwyr ar gael.
  • A yw’r llanw i mewn ynteu allan.
  • A oes creigiau, pierau, grwynau neu forgloddiau a allai amharu ar badlo ac ymdrochi.
  • A yw’r traeth yn brysur.
  • A oes chwaraeon dŵr yno, a yw’r rhain yn digwydd mewn parthau penodol. 
  • Beth yw cyfl wr y môr, a yw’r traeth yn serth.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddiwch siaced fywyd neu offer arnofio sydd wedi eu ffitio’n iawn; yn enwedig wrth fynd ar gwch neu unrhyw fath o long hamdden.

Ceisiwch ddewis traeth sy’n cynnig gwasanaeth achubwyr a nofi wch lle mae’r patrôl yn gweithio, o fewn yr ardal â baneri coch/melyn.

Chwiliwch am wybodaeth diogelwch a allai gynnwys arwyddion o rybudd a dysgwch beth mae’r faner yn ei olygu:

Coch a Melyn – achubwyr yn patrolio, mae dwy faner ar ymyl y dŵr yn dangos ffi niau’r ardal a gaiff ei phatrolio.

Coch – mae’n beryglus nofi o neu ymdrochi.

Du a gwyn – ardal wedi’i phennu ar gyfer chwaraeon dŵr.

  • Ewch gyda’ch gilydd – peidiwch â nofi o ar eich pen eich hun.
  • Dylai plant fynd gydag oedolyn bob amser.
  • Dylech wybod lle mae pawb.
  • Goruchwyliaeth gyson yw’r unig ffordd wirioneddol o sicrhau diogelwch eich plentyn.

Dysgwch sut i helpu - Galwch am help a dywedwch wrth achubwr os oes problem, neu ewch at y ffôn agosaf, deialwch 999 a gofyn am wylwyr y glannau.

Peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i achub neb.

Dolenni cysylltiedig allanol

Royal National Lifeboat Institution (RNLI) - www.rnli.org.uk (Saesneg yn unig)

Sea Smart: www.mcga.gov.uk/seasmart (Saesneg yn unig)

Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol: www.nationalwatersafety.org.uk (Saesneg yn unig)

Y Gymdeithas Frenhinol dros Achub Bywydau: www.lifesavers.org.uk (Saesneg yn unig)