Skip to content

Diogelwch yn y cartref I bobl hŷn

Car wedi troi drosodd ar ffordd
Mae pobl hŷn yn un o’r grwpiau sydd fwyaf agored i gael damweiniau, yn enwedig y tu mewn a’r tu allan i’w cartrefi.    

Codymau:

  • Peidiwch â gadael pethau ar y grisiau.
  • Gwnewch yn siŵr fod y cartref yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, yn enwedig y
    grisiau a’r lloriau.
  • Dylech osgoi carpedi rhy batrymog a allai ystumio canfyddiad y rhai sydd â nam ar eu golwg.
  • Amlygwch ymylon allanol stepiau trwy ddefnyddio paent gwyn gwrthlithro.
  • Dylai’r cartref fod wedi’i oleuo’n dda gyda switsys golau dwy-ffordd ar y grisiau.
  • Rhowch olau wrth ochr y gwely, sy’n hawdd i’w droi ymlaen yn y tywyllwch.
  • Rhowch gawell o amgylch y bocs llythyrau fel nad oes yn rhaid gwyro i godi llythyrau.
  • Dylech osgoi ceblau ar hyd y lloriau a llanast.
  • Defnyddiwch stepiau yn lle sefyll ar gadair.
  • Defnyddiwch esgidiau a sliperi sy’n ffi tio’n dda, ac osgoi sodlau uchel.

Sgaldiadau

Mae pobl hŷn bedair neu bum gwaith yn fwy tebygol o farw o losgiadau a sgaldiadau na’r boblogaeth yn gyffredinol. Prif ffynonellau gwres yw rheiddiaduron, tanau trydan a chwceri. Gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • Defnyddio tegell â ffl ecs troellog neu degell heb ffl ecs.
  • Defnyddio tegelli jwg neu degell sy’n llenwi trwy’r pig.
  • Berwi’r dŵr sy’n angenrheidiol yn unig, a dim mwy.
  • Peidio â cheisio cario hylifau poeth yn bellach nag sydd raid.
  • Dylai dŵr o dap y bath fod yn ddim poethach na 46°C.
  • Gosodwch falf cymysgu thermostatig.
  • Wrth redeg bath, trowch y dŵr oer ymlaen yn gyntaf.
  • Defnyddiwch y platiau poeth sydd ar gefn eich cwcer i ddechrau.
  • Trowch ddolennau’r sosbenni oddi wrth du blaen y cwcer.
  • Gwnewch yn siŵr nad oes ôl traul ar boteli dŵr poeth.

Gwenwyno:

  • Gwnewch yn siŵr fod arbenigwr yn edrych ar y dyfeisiau llosgi-tanwydd yn rheolaidd, oherwydd fod carbon monocsid yn gallu lladd.
  • Gwnewch yn siŵr fod peiriannydd gwresogi sydd wedi’i gofrestru â Corgi yn
    gwasanaethu’r peiriannau nwy yn fl ynyddol.
  • Dylech lanhau simneiau a ffl iwau unwaith y fl wyddyn.
  • Os yw ffl am nwy sydd fel arfer yn troi’n las yn troi’n oren, gallai hynny olygu fod carbon monocsid yn cronni.
  • Peidiwch â chymryd dosau mwy o gyffuriau nag sydd ar eich presgripsiwn.

Dolenni cysylltiedig allanol

Edrychwch beth allwch chi ei wneud i wella diogelwch yn eich cartref drwy gymryd prawf Cartref Diogel yn Cartref Diogel (Saesneg yn unig)