- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch yn y ardd
Mae’r ardd yn le i’w fwynhau gan y teulu, ond gall damweiniau ddigwydd yno hefyd.
Bob blwyddyn, mae oddeutu 50 o bobl yn marw a mwy na 300,000 yn cael eu hanafu o gwmpas eu gerddi yn y DU. Mae oddeutu 125,000 o blant angen triniaeth mewn ysbyty am anafi adau sydd wedi digwydd yn yr ardd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r anafi adau hynny yn rhai y gellid fod wedi’u hosgoi yn rhwydd.
Dyma ambell i awgrym ar sut i wneud eich gardd yn lle mwy diogel:
- Rhowch gebl y peiriant tocio gwrychoedd neu’r peiriant torri gwair dros eich ysgwydd a’i gadw y tu ôl i chi bob amser.
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas pan fyddwch chi’n torri’r gwair a chadw eich traed a’ch dwylo’n ddigon pell oddi wrth lafnau’r peiriant.
- Diogelwch eich hun rhag cael eich trydanu trwy ddefnyddio dyfais cerrynt gweddilliol (RCD) wrth ddefnyddio offer gardd trydanol.
- Peidiwch â gweithio gyda thrydan mewn amodau llaith neu wlyb.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa blanhigion yn eich gardd sy’n wenwynig a chadwch y plant yn ddigon pell oddi wrthynt. I ddod i wybod mwy am pa blanhigion sy’n wenwynig, ewch i wefan Real Gardeners www.realgardeners.co.uk (dolen allanol, Saesneg yn unig)
- Rhwystrwch anafi adau neu wenwyno damweiniol i chi eich hun ac i eraill trwy ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr yn ofalus pan fyddwch chi’n defnyddio chwynladdwyr, gludyddion a thoddyddion.
- Peidiwch fyth â throsglwyddo sylweddau o un cynhwysydd i’r llall os gallai hynny beri dryswch ac achosi gwenwyno.
- Dylid osgoi gwenwyno a llosgiadau cemegol trwy storio cemegau’n ddiogel allan o olwg a chyrraedd plant, dan glo mewn cabinet neu sied os oes modd.
- Cadwch eich offer garddio mewn cyfl wr da a’i roi i’w gadw’n daclus.
- Cadwch blant ac anifeiliaid anwes yn ddiogel o’r neilltu pan fyddwch chi’n gwneud tasgau crefftau’r cartref neu dasgau yn yr ardd.
- Rhwystrwch anafi adau yn sgîl baglu, llithro a chwympo, trwy ddarparu canllawiau a barieri diogelwch pan fo newid yn lefel yr ardd, a gwnewch yn siŵr fod pob llwybr a gris yn wastad, yn gadarn ac yn ddifwsog.
- Cadwch blant dan oruchwyliaeth ar bob adeg; yn enwedig pan yn ymweld â ffrindiau neu berthnasau sy’n berchen pwll nofio neu bwll pysgod.
- Gwnewch yn siŵr fod barbeciwiau a choelcerthi yn ddigon pell oddi wrth goed, adeiladau a ffensys.
- Peidiwch fyth â defnyddio petrol na pharaffi n ar farbeciw a pheidiwch â symud oddi wrthynt.
- Dylid sicrhau bod siglenni a fframiau dringo wedi’u gosod yn ddiogel ac y cânt eu cynnal a’u cadw. Peidiwch â’r rhoi ar wynebau caled.
- Gwagiwch byllau padlo pan nad ydynt yn cael eu defnyddio oherwydd y gall plentyn foddi mewn ychydig gentimedrau o ddŵr.
- Dylid llenwi pyllau gardd neu’u cau i ffwrdd yn ddiogel â ffens, tra bo plant yn fach.
- Dylai rhwydi a phadiau diogelwch fod wedi’u gosod ar dramplinau, ac ni ddylid eu rhoi wrth ymyl waliau, leiniau dillad nac ar wynebau caled.
