- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch tân
Yn 2006, cafwyd 2,454 o danau mewn anheddau ledled Cymru.
Gall tanau ddechrau’n sydyn a lledaenu’n gyfl ym, gan ddifrodi eich cartref a’ch eiddo a pheryglu bywydau.
Mae sawl peth yn achosi tân, ond mae rhai rhagofalon syml y gallwch eu cymryd i’w hatal rhag dechrau. Y ffordd fwyaf effeithiol o achub bywyd ac osgoi anafi adau os bydd tân yw gosod larwm mwg ar bob llawr yn y cartref a’i brofi bob wythnos. Y math sy’n cael ei wifro i mewn i’r prif wifrau yw’r gorau neu larwm â batri deng mlynedd.
Cyngor arall am ddiogelwch:
- Cadwch fatsis a thanwyr o olwg a chyrraedd plant.
- Diffoddwch a gwaredwch sigaréts yn briodol.
- Cadwch bob tân a gwresogydd wedi’u gwarchod yn dda, yn enwedig rhai agored.
- Mae gard digonol yn gwarchod y lle tân cyfan neu’r ardal o amgylch y tân – nid y tân ei hun yn unig. Pan fydd plant o gwmpas, defnyddiwch un gyda chlipiau ochr sy’n cael eu gosod mewn bracedi wal sefydlog.
- Os oes tân glo gennych, defnyddiwch gard gwreichion dros nos.
- Cadwch wresogyddion cludadwy a chanhwyllau yn ddigon pell oddi wrth ddodrefn a llenni.
- Peidiwch â sychu na chrasu dillad dros y tân neu’r popty nac yn agos atynt.
- Ewch â’ch blanced drydan i gael ei phrofi yn rheolaidd.
- Peidiwch â phrynu dodrefn os nad yw’r label gwrthsefyll tân arnynt – gallai fynd ar dân yn hawdd.
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydan.
- Am wiriad diogelwch tân di-dâl gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, ffoniwch 0800 169 1234 neu ewch i www.fireflash.org (dolen allanol)
Rydych bron deirgwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd mewn tân sy’n dechrau yn y nos felly gwnewch yn siŵr eich bod yn drefnus gyda’r nos:
- Sicrhewch fod pob sigarét yn cael ei diffodd yn briodol.
- Caewch bob drws, diffoddwch a datgysylltu plwg pob teclyn heblaw’r rheiny a gynlluniwyd i’w gadael ymlaen fel DVD neu oergelloedd.
- Peidiwch â gadael y teledu na’r teclynnau trydanol eraill ar y gosodiad
golau-coch. Cofi wch eu diffodd bob amser a datgysylltu’r plwg pan na fyd
dwch yn eu defnyddio. - Os oes angen i chi gadw drws ystafell wely plentyn ar agor, caewch y drysau i’r ystafell fyw a’r gegin.
- Peidiwch ag ysmygu yn y gwely.
- Cynlluniwch sut y byddech yn dianc ac ymarfer y drefn, rhag ofn bydd tân, fel bod pawb yn gwybod sut i ddianc yn ddiogel. Cofi wch efallai y bydd rhaid i chi ddianc yn y tywyllwch.
- Cymerwch ofal arbennig os ydych wedi blino neu wedi bod yn yfed.
- Diffoddwch a datgysylltu plwg eich blanced drydan pan fyddwch yn y gwely
heblaw y cafodd ei gynllunio i’w gadael ymlaen dros nos.
Un achos sylweddol o farwolaeth oherwydd tanau yng Nghymru yw coginio dan ddylanwad alcohol. Ar gyfer coginio’n ddiogel:
- Peidiwch â choginio ar ôl bod yn yfed - os oes chwant ychydig o sglodion arnoch, ewch i’r siop sglodion. Mae’n llawer mwy diogel.
- Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb rywun i ofalu amdano.
- Cadwch lygad ar y badell bob amser wrth ffrio bwyd yn ddwfn. Ni ddylai’r badell gynnwys mwy nag un rhan o dair o olew. Gwell fyth, prynwch ffrïwr saim dwfn a reolir gan thermostat neu defnyddiwch sglodion ffwrn.
- Peidiwch â gadael y peiriant golchi, y peiriant golchi llestri neu’r peiriant sychu
dillad ymlaen yn y nos neu pan fyddwch allan. - Cadwch y ffwrn, yr hob, y tostiwr a’r gridyll yn lân – os bydd braster, briwsion
a saim yn casglu, gallant fynd ar dân yn hawdd. - Cadwch eitemau ffl amadwy fel erosol, glud, olew, paraffi n neu betrol o afael
plant ac allan o’r gwres neu olau’r haul.
Dathlwch yn ddiogel – mae goleuadau addurniadol a chanhwyllau yn gallu bod yn beryglus iawn felly:
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydan gyda goleuadau Nadolig ychwanegol.
- Os oes angen mwy o blygiau arnoch, defnyddiwch addasydd ‘bar’ â ffi ws.
- Diffoddwch ganhwyllau yn iawn a pheidiwch byth â’u gadael heb neb i ofalu
amdanynt. - Peidiwch â mynd allan a gadael goleuadau Nadolig neu ganhwyllau’n llosgi.
Sicrhewch eu bod wedi diffodd cyn i chi fynd allan a chyn i chi fynd i’r gwely. - Os oes hen oleuadau gennych, ystyriwch o ddifrif prynu rhai newydd a fydd yn cyrraedd safonau diogelwch llawer uwch.
- Peidiwch â defnyddio goleuadau yn yr awyr agored oni bai eu bod wedi’u gwneud yn benodol at ddefnydd felly.
Cofi wch – peidiwch â pheryglu eich hun drwy daclo tân. Ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch am y gwasanaeth tân. I gael archwiliad diogelwch yn rhad ac am ddim ac eich cartref a larymau mwg rhad ac am ddim, ffoniwch eich gwasanaeth tân lleol.
Dolenni cysylltiedig allanol
Atal Tân Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru
Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
