- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Diogelwch gyda chreffta’r cartref
Mae ffordd ddiogel a ffordd beryglus o ymgymryd â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw yn y cartref.
Bob blwyddyn, mae dros 220,000 o bobl yn y DU yn cael eu hanafu wrth gyfl awni tasgau crefftau’r cartref, a hynny’n ddigon drwg i orfod mynd i’r ysbyty. O’r rhain, mae 70 o bobl yn marw; mae 50 o’r marwolaethau hynny’n gysylltiedig â damweiniau gydag ysgolion.
Y ddwy brif elfen sy’n achosi damweiniau o’r fath yw bod yn rhy uchelgeisiol a diffyg gwybodaeth ac mae dwy ran o dair o’r rhai a gaiff eu hanafu yn wrywod:
- Byddwch yn realistig a pheidiwch ag ymgymryd â thasg os nad yw’r gallu a’r offer cywir yn eich meddiant.
- Person cymwys a thrwyddedig yn unig a ddylai ymgymryd â gwaith atgyweirio nwy a thrydan.
- Cadwch unrhyw offer sydd gennych yn lân ac mewn cyfl wr da, a gwnewch yn
siŵr fod pob un ohonynt yn iawn cyn eu defnyddio. - Gwisgwch ddillad addas, gydag esgidiau cadarn, a pheidiwch â gwisgo dillad llac na gemwaith.
- Cynlluniwch ymlaen llaw a pheidiwch â rhuthro.
- Diffoddwch a datgysylltu pob offer trydan cyn gweithio arnynt, a dilynwch y
cyfarwyddiadau’n ofalus. - Gwnewch yn siŵr fod offer, paent a chemegau yn cael eu cadw allan o gyrraedd plant.
- Cymerwch ofal arbennig gydag offer torri miniog a pheidiwch fyth â’u gadael
o gwmpas y lle. - Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr yn ofalus iawn pan fyddwch chi’n
defnyddio gludyddion, yn enwedig y math sy’n gweithio’n gyfl ym iawn. - Defnyddiwch RCD – dyfais cerrynt gweddilliol – gydag unrhyw offer trydanol os nad yw eich cartref eisoes wedi’i weirio’n unol â’r safon.
- Pan fyddwch chi’n defnyddio ysgol, gwnewch yn siŵr ei bod mewn cyfl wr da
a gosodwch hi ar ongl ddiogel – 1 mewn 4. - Gofynnwch i rywun sefyll wrth droed yr ysgol neu defnyddiwch ‘stay’ os oes
un ar gael. - Pan fyddwch chi ar yr ysgol, peidiwch â gorgyrraedd.
- Cadwch blant ac anifeiliaid anwes yn ddigon pell pan fyddwch chi’n gwneud tasgau crefftau’r cartref.
- Cadwch pob cynnyrch yn eu cynhwysyddion gwreiddiol.
- Tacluswch ar ôl i chi orffen.
