- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru
Seddau car I blant
Yn ôl y gyfraith, mae’n RHAID i blant o dan dair oed neu sydd dan 135cm, eistedd mewn seddi diogel sy’n briodol ar gyfer eu pwysau mewn unrhyw gerbyd (ac eithrio pan nad oes un ar gael mewn tacsi). Rhaid peidio â gosod seddau pwrpasol sy’n wynebu tua’r cefn mewn sedd sydd wedi’i diogelu gan fag awyr, oni bai fod hwnnw wedi’i droi’i ffwrdd.
Awgrymiadau eraill
Dewiswch sedd sy’n addas i bwysau a thaldra eich plentyn:
- Dylai babanod fod mewn seddau babanod sy’n wynebu tua’r cefn.
- Peidiwch â symud eich plentyn i sedd sy’n wynebu tua’r blaen nes eu bod yn pwyso o leiaf 9 kg a’u bod yn gallu eistedd i fyny heb gymorth.
- Unwaith mae eich plentyn yn pwyso mwy na’r uchafswm ar gyfer sedd sy’n wynebu tua’r cefn neu pan fo top eu pen yn uwch na thop y sedd, dylid eu symud i sedd sy’n wynebu tua’r blaen.
Peidiwch â phrynu sedd ail-law, oni ellwch fod yn hollol siŵr o’i hanes. Gallai fod wedi bod mewn damwain a chael ei gwanhau’n arw. Mae’n bosib na fydd yn dod gyda chyfarwyddiadau ac na fydd wedi’i chynllunio yn unol â’r safonau cyfredol.
Darllenwch a dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gwnewch yn siŵr fod y gwregys diogelwch yn pasio trwy’r mannau cywir ar sedd y plentyn.
Gwthiwch eich pwysau i mewn i sedd y plentyn wrth i chi dynhau’r gwregys diogelwch er mwyn gwneud yn siŵr fod sedd eich plentyn yn ddiogel.
Os ydych chi’n gosod sedd plentyn sy’n wynebu tua’r blaen yn sedd fl aen y car, gwnewch yn si ˆ wr fod y sedd mor bell yn ôl ag sy’n bosibl oherwydd y bydd hynny’n cyfyngu ar y posibilrwydd o anafi adau i’r pen neu i’r frest yn ystod damwain.
Os ydych chi’n tynnu’r sedd plentyn allan o’r car, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gosod yn ei hôl yn iawn bob tro. Os yw’n aros yn barhaol yn y car, edrychwch arni’n rheolaidd i wneud yn siŵr ei bod yn dal i fod yn ddiogel. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn defnyddio’r sedd ar gyfer pob taith yn y car, pa mor fyr bynnag y bo.
Os ydych chi’n defnyddio clustog hybu, dylai gwregys diogelwch yr oedolyn orffwys ar ysgwydd y plentyn, nid ar y gwddf, ac o un asgwrn y glun i’r llall. Peidiwch fyth â rhoi’r gwregys diogelwch dan fraich y plentyn na thu ôl iddo.
Mae rhai plant yn mynd trwy gyfnod o lithro allan o’r harnais neu o ryddhau’r bwcl ond peidiwch â newid y bwcl er mwyn atal hynny; gallech amharu ar y mecanwaith rhyddhau cyfl ym.
O fi s Mai 2008 ymlaen, bydd yn rhaid i bob sedd plentyn gydymffurfi o â safon
UN ECE44.03 (neu fersiynau dilynol).
Rhowch esiampl dda bob amser trwy wisgo eich gwregys diogelwch.
Dolenni cysylltiedig allanol
Collaboration of Accident Prevention and Injury Control - www.capic.org.uk (Saesneg yn unig)
Child Accident Prevention Trust - www.capt.org.uk (Saesneg yn unig)
Child Car Seats - www.childcarseats.org.uk (Saesneg yn unig)
