Skip to content

Ariannu Trafnidiaeth

Dolenni perthnasol

Rydym wrthi’n datblygu system drafnidiaeth o’r radd flaenaf i ddarparu dulliau teithio sy'n ddiogel, yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy i bawb.
Trên yn y gorsaf
Dros y 5 mlynedd diwethaf mae'r Cynulliad wedi buddsoddi'n helaeth i gefnogi awdurdodau lleol gyda'r gwaith o ddarparu system drafnidiaeth integredig i Gymru.

Buddsoddwyd £300 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd er mwyn cefnogi'r gwaith o wella'r seilwaith rheilffyrdd, i fuddsoddi mwy yn y cynlluniau trafnidiaeth integredig ac i gynyddu'r arian a roddwyd i gynghorau a'u mentrau Llwybrau Diogel i'r Ysgol.

Dyma rai enghreifftiau o sut y buddsoddwyd yr arian:

  • Ail-agor rheilffordd Bro Morgannwg i deithwyr, gan agor gorsafoedd newydd yn Llanilltud Fawr ac yn Y Rhws ynghyd â'r cyfle i wasanaethu Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd o'r orsaf yn y Rhws.
  • Gwella'r cyfleusterau cyfnewid yng ngorsafoedd Rhydaman a Llanymddyfri sydd ar reilffordd Calon Cymru ynghyd â darparu mannau gwybodaeth mewn gorsafoedd.
  • Gwneud newidiadau i wella capasiti ynghyd â darparu gorsafoedd newydd a chyfnewidfeydd bws/rheilffordd ar draws y wlad.

Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi mwy o arian, weithiau drwy roi grantiau i awdurdodau lleol neu drwy gydweithio gyda sefydliadau eraill, i ddarparu 

  • teithio am ddim i bobl anabl ledled Cymru.
  • tocyn bws di-dal i bobl dros 60 oed.
  • gwella diogelwch y staff a'r bobl sy'n defnyddio rheilffyrdd ledled Cymru.
  • parhau i fuddsoddi er mwyn gwella seilwaith drafnidiaeth Cymru a hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, cefnogi mentrau cerdded a seiclo a'r fenter Llwybrau Diogel i'r Ysgol.