Skip to content

Ariannu llywodraeth leol

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; awdurdodau’r heddlu, y parciau cenedlaethol a thân ac achub; a chynghorau tref a chymuned.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 80% y cant o gyllid yr awdurdodau lleol yng Nghymru.
Neuadd Dinesig
Caiff yr Awdurdodau Lleol eu hariannu drwy gyfuniad o grantiau cymorth refeniw ac ardrethi annomestig cenedlaethol sydd wedi'u hailddosbarthu oddi wrth Lywodraeth Cymru a thrwy'r dreth gyngor sydd wedi ei phennu gan bob awdurdod.

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn £4.0 biliwn o arian craidd oddi wrth Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer y gwasanaethau y maent yn eu darparu yn 2010/11. Daw'r elfen hon, sef yr elfen fwyaf o'r gyllid, drwy grantiau sydd heb eu neilltuo. Dyna'r arian y bydd yr awdurdodau'n gallu ei ddefnyddio at unrhyw ddiben er mwyn cyflawni'r gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt.

Mae Llywdraeth Cymru hefyd yn darparu arian wedi'i neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol at ddibenion mwy penodol. Yn ystod 2010/11 gall yr awdurdodau fanteisio ar dros £720 miliwn er mwyn cefnogi mwy na 50 o grantiau a chynlluniau penodol. Maent yn amrywio o'r Gronfa Ysgolion Gwell i'r Strategaeth Anabledd Dysgu, ac o'r grantiau i hyrwyddo cydweithio i grantiau sy'n cefnogi disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.

Ceir grantiau i gefnogi'r fenter brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, grantiau i gefnogi Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol a grantiau ar gyfer Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol. I weld rhestr lawn o'r grantiau hyn a'r cyllid arall sydd ar gael gan yr awdurdodau lleol, ewch i dudalennau Ariannu a Chyllid Llywodraeth Leol.