Skip to content

Ariannu Iechyd

Dolenni perthnasol

Ar y tudalennau hyn fe welwch y newyddion a'r cyhoeddiadau diweddaraf am iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae rhyw 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru ac yn defnyddio gwasanaethau’r GIG.
Nyrs a hen ddyn
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i ofalu am bobl Cymru. Darperir arian drwy law dyraniadau refeniw i gyrff megis y GIG ac ar ffurff mentrau i wella iechyd. Mae'r mentrau hyn yn annog sefydliadau i gydweithio er mwyn gwella iechyd ein gwlad.

Ariannu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Mae'r GIG yn derbyn math penodol o arian a elwir yn ddyraniadau refeniw. Dyma'r arian a roddwn i'r Byrddau Iechyd Lleol a Chomisiwn Iechyd Cymru i dalu costau rhedeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru o ddydd i ddydd yn ystod pob blwyddyn ariannol.

Caiff yr arian ei ddefnyddio i:

  • dalu cyflogau holl staff y GIG yng Nghymru, gan gynnwys meddygon, nyrsys a staff cymorth mewn ysbytai, staff y gwasanaeth ambiwlans a staff gweinyddol sy'n gweithio yn y byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG 
  • talu costau cyffuriau, rhwymynnau a deunydd clinigol eraill a ddefnyddir i ofalu am gleifion mewn ysbytai ac yn y gymuned 
  • talu costau glanhau, gwresogi, a goleuo ysbytai a'r gwaith o'u cynnal a'u cadw yn gyffredinol
  • talu costau petrol ambiwlansys a cherbydau eraill y GIG
  • talu meddygon teulu i gynnal eu practisau
  • talu costau'r cyffuriau sydd wedi eu rhagnodi gan feddygon teulu 
  • talu fferyllfeydd lleol am ddarparu cyffuriau drwy'r GIG.