Skip to content

Ariannu Diwylliant a Chwaraeon

Dolenni perthnasol

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sy'n hyderus, yn amrywiol, yn greadigol ac yn heini.
Sut y caiff arian y Loteri ei ddosbarthu yng Nghymru.
Un o'r prosiectau mwyaf yng Nghymru ar gyfer dathlu'r Mileniwm.
Nod Llywodraeth Cymru yw cryfhau hunaniaeth ddiwylliannol Cymru a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn cael ei ddosbarthu gan y Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r dudalen hon yn disgrifio lle y mae'r arian yn mynd. Os hoffech gael gafael ar gyllid grant, ewch i wefan y sefydliad perthnasol.

Y celfyddydau

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Ewch i: wefan Cyngor Celfyddydau Cymru (dolen allanol)

Cyhoeddi

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi.

Ewch i: wefan Cyngor Llyfrau Cymru (dolen allanol)

Chwaraeon

Mae Chwaraeon Cymru yn derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ac mae hefyd yn dosbarthu arian loteri ar gyfer chwaraeon yng Nghymru.

Ewch i: wefan Chwaraeon Cymru (dolen allanol)

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn rhanddeiliad allweddol ac yn un o ariannwyr craidd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Ewch i: wefan Gardd Fotaneg Genedlaethol (dolen allanol)

Arian loteri

Mae pum prif sefydliad yng Nghymru yn dosbarthu arian o'r Loteri Genedlaethol. Mae gan bob un ei raglen a'i flaenoriaethau ariannu ei hun. 

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y dolenni uchod, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at cswl@wales.gsi.gov.uk.