Skip to content

Sut i wneud cwyn i Lywodraeth Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Os ydych yn anfodlon â gwasanaethau a ddarparwyd gennym, efallai y byddwch am gwyno.

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i ymateb. Gallwch hefyd lwytho’r ffurflen isod i lawr a’i chyflawni cyn ei anfon nôl i ni ar Complaints@wales.gsi.gov.uk neu anfon drwy’r post i’r

Uned Gwynion ganolog
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Byddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith o’i dderbyn.

Fersiwn Cryno o Ganllawiau Cwyno

Offeryn syml i blant (neu eu cynrychiolwyr) i ddefnyddio os ydynt yn credu nad yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried hawliau plant wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio eu bywydau.

Mae’r pecyn yn ddarparu canllawiau cam wrth gam ar y broses a’r opsiynau sydd ar gael, gyda dolenni i fanylion ychwanegol a chysylltiadau.

Ymgynhorwyd â plant a phobl ifanc wrth ddatblygu’r offeryn hwn.

Fersiwn Cryno o Ganllawiau Cwyno

Awgrymiadau

Gallwch gwyno os:

  • ydych yn anfodlon â gwasanaethau a ddarparwyd gennym
  • os ydych yn credu ein bod wedi ymddwyn yn anghwrtais, amhroffesiynol, afresymol neu wedi gwrthod ateb cwestiynau rhesymol
  • ein bod wedi methu â dweud wrthych am unrhyw hawliau
  • ein bod wedi rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i chi.


Ni fyddwn yn ystyried cwynion am:

  • wasanaeth a ddarparwyd gan awdurdod lleol
  • unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad am eich bod yn anghytuno â’r penderfyniad hwnnw

Os ydych am gymryd camau cyfreithiol, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol gyntaf.  Ni fyddai cymryd camau o’r fath yn eich atal rhag cyflwyno cwyn.