Skip to content

Ymgynghori

Digwyddiadau Cymru (Event Wales) – datblygu strategaeth digwyddiadau mawr i Gymru (2010 - 2020)

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cyhoeddi Strategaeth Digwyddiadau Mawr i Gymru sy’n nodi dull mwy cydlynol a strategol o gefnogi digwyddiadau mawr yn y dyfodol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 07/04/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 04/06/2010

Mae’r ddogfen ymgynghori yn ceisio barn ynghylch Strategaeth Digwyddiadau Mawr ddrafft i Gymru ar gyfer 2010 -2020. Rydym am gael eich barn yn benodol ynghylch:

  • diben a chwmpas y strategaeth;
  • yr egwyddorion pwysig a’r meini prawf a fydd yn sail i’n penderfyniadau;
  • rôl arwain yr Uned Digwyddiadau Mawr;
  • y cynigion amlinellol ar gyfer fframwaith ymchwil a gwerthuso;  
  • cynllun gweithredu cychwynnol i fwrw ymlaen â’r strategaeth.