Skip to content

Ymgynghori

Casglu a Chyhoeddi Ystadegau Tân

Gofynnwn am eich barn defnyddwyr ar gynigion i newid y casgliadau data ac allbynnau ystadegol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 09/11/2011
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 01/02/2012

Dolenni perthnasol

Mae adran Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn casglu, yn dadansoddi ac yn lledaenu data ar sawl agwedd o weithgarwch Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru. Mae data ar ystadegau gweithredol yn cael ei gasglu bob blwyddyn ac mae'n cynnwys adnoddau dynol, cyllid, data gweithredol, diogelwch tân a diogelwch tân yn y gymuned. Mae data yn cael ei gyhoeddi ar hyn yn ogystal ag ar ddigwyddiadau tân a dangosyddion perfformiad.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn defnyddwyr ar gynigion i newid y casgliadau data ac allbynnau ystadegol. Bydd eich cyfraniadau yn ein helpu i ddeall yr effaith y gallai'r newidiadau hyn ei chael ar yr unigolion a'r sefydliadau sy'n defnyddio ystadegau hyn. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn llywio ein blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hyn yn cydymffurfio gyda Chod Ymarfer Ystadegau Swyddogol sy’n datgan bod ymgysylltu effeithiol â defnyddwyr yn hanfodol o ran ymddiriedolaeth yn ystadegau ac i sicrhau gwerth cyhoeddus uchaf.

Hoffwn dderbyn gymaint o adborth ag sy’n bosib, a byddwn yn ddiolchgar os allech chi gwblhau y ffurflen byr ar-lein yma.

Os mae cyfyngiadau ar eich gwefan wrth ddefnyddio gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl, yna efallai byddwch yn cael trafferth defnyddio’r ffurflen ar-lein. Mae yna ffyrdd eraill o ymateb i’r ymgynghoriad - gweler isod.