Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar Dalu am Ofal yng Nghymru: Papur Gwyrdd i ymgynghori ar yr opsiynau ar gyfer newid

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ynglŷn â’r Papur Gwyrdd Talu am Ofal yng Nghymru, sy’n cynnwys opsiynau ar gyfer diwygio’r system.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 16/11/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 28/02/2010

Mae'r system bresennol o dalu am ofal i bobl hŷn ac anabl ar waith ers 60 mlynedd, ac mae angen iddi newid er mwyn bodloni'r galw cynyddol a disgwyliadau uwch. Rydym am greu system sy'n symlach, yn decach ac yn fwy fforddiadwy i unigolion, eu teuluoedd a’r llywodraeth.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am glywed eich barn chi ar sut y dylem dalu am ofal yn y dyfodol.

Cafodd ‘Talu am Ofal yng Nghymru: Creu system deg a chynaliadwy’ ei gyhoeddi ar 16 Tachwedd 2009. Mae'n nodi nifer o opsiynau ar gyfer diwygio'r system bresennol ynghyd â phrif fanteision ac anfanteision pob un.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Talu am Ofal yng Nghymru (dolen allanol)