Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Demensia Cenedlaethol Cymru

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar y Cynllun Gweithredu Demensia Cenedlaethol, a ddatblygwyd gan y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlodd y gweinidog y llynedd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 16/06/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 11/09/2009

Mae datblygu gwasanaethau i bobl sy’n dioddef o ddemensia yn flaenoriaeth. Yn ôl y Gymdeithas Alzheimer mae 37,000 o bobl yn dioddef o ddemensia yng Nghymru. Y disgwyl yw y gwelir cynnydd o 35% dros yr ugain mlynedd nesaf ac y bydd un o bob tri o bobl dros 65 oed yn marw gyda ffurf ar ddemensia .

I gydnabod yr angen i wella’r gofal i bobl sy’n dioddef o ddemensia a chynllunio ar eu cyfer, sefydlodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Hydref 2008 i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu Cynllun Demensia Cenedlaethol i Gymru. Ian Thomas, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer Cymru, oedd yn cadeirio’r Grŵp, a oedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr iechyd.

Lluniwyd dogfen ymgynghorol ‘Cynllun Gweithredu Demensia Cenedlaethol Cymru’, gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn rhoi cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad a rhestr o'r ymatebwyr i'w gweld isod. Hoffai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad hwn.