Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft Cymru ar gyfer Pontio’r Cenedlaethau: Creu Cymdeithas ar gyfer Pob Oed

Yn dilyn cyfnod ymgynghori cychwynnol, dymuna Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach ymgynghori’n ffurfiol ar y Ddogfen Strategaeth ar gyfer Pontio’r Cenedlaethau sydd ynghlwm.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 02/06/2008
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 30/08/2008

Wrth fynd â’r agenda hon yn ei blaen rydym wedi datblygu dull gweithredu strategol i nodi lle y gallai ystyriaethau o ran pontio’r cenedlaethau gryfhau strategaethau sydd eisoes yn bod. O ganlyniad, rydym wedi dwyn ynghyd ein dealltwriaeth o waith pontio’r cenedlaethau a’r ffordd y mae’n cynnwys cenedlaethau mewn gweithgareddau pwrpasol, sydd o fudd i’r ddwy ochr, yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth a pharch rhwng y cenedlaethau ac yn helpu i greu cymunedau mwy cydlynus.

Rydym hefyd wedi nodi enghreifftiau o arfer da yng Nghymru a ffynhonnell o gyngor pellach ar y ffordd yr oedd dulliau pontio’r cenedlaethau yn mynd i’r afael yn effeithiol â nifer o flaenoriaethau allweddol y llywodraeth megis creu cymunedau byw, datblygu parch a dealltwriaeth ar draws y cenedlaethau gan hyrwyddo dinasyddiaeth, adfywio cymdogaethau a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

Cyflawnwyd hyn wrth i Lywodraeth y Cynulliad, gyda chefnogaeth Sefydliad Beth Johnson, weithio gyda phobl ifanc a phobl hŷn i gynnal a helpu i lywio polisi’r dyfodol ar bontio’r cenedlaethau. Strategaeth ddrafft ar Bontio’r Cenedlaethau yng Nghymru yw’r canlyniad, ac mae copi ohoni ynghlwm.

Fel dogfen ar bontio'r cenedlaethau, mae gennym ddiddordeb penodol ym marn grwpiau o blant a phobl ifanc a phobl hyn fel ei gilydd.