Skip to content

Ymgynghori

Strategaeth Tlodi Tanwydd

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaed yn erbyn ein hamcanion tlodi tanwydd. Bydd yn llywio’r broses o ddiweddaru’r Strategaeth mewn perthynas â’r camau sy’n cael eu cymryd i ymdrin â thlodi tanwydd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 09/11/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 04/01/2010

Beth yw tlodi tanwydd?

Mae pobl ar aelwyd sydd mewn tlodi tanwydd os ydynt yn gwario 10% neu fwy o’u hincwm ar danwydd i gadw eu cartref yn gynnes.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn diwygio’r Ymrwymiad Tlodi Tanwydd i Gymru ac yn amlinellu dull Llywodraeth y Cynulliad o ddileu tlodi tanwydd. Rydym am weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu dull o gyflenwi a fydd yn dileu tlodi tanwydd yng Nghymru.

Cafodd yr ymgynghoriad hwn ei lywio gan ymchwil i’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni, yn ogystal â’r ymatebion a gafwyd fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Cynllun hwnnw.