Skip to content

Ymgynghori

Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb Hiliol a Chydraddoldeb i Bobl Anabl

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau ar yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb Hiliol a Chydraddoldeb i Bobl Anabl
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 18/01/2008
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 04/04/2008

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau ar yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb Hiliol a Chydraddoldeb i Bobl Anabl ar gyfer y Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol canlynol yng Nghymru:

  • Rhaglen Gydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (ERDF)
  • Rhaglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (ESF)
  • Rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Dwyrain Cymru (ERDF)
  • Rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol Cronfa Gymdeithasol Ewrop Dwyrain Cymru (ESF)

Bydd y broses ymgynghori yn dod i ben ar 4 Ebrill 2008.

Ymateb i’r Ymgynghoriad

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ôl i’r ymgynghoriad gau. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr awdur eu cyhoeddi ynghyd â’r ymateb, gan fod hyn yn rhoi hygrededd i’r ymarfer ymgynghori. Os yw’n well gennych chi beidio â chyhoeddi eich ymateb, neu ei fod yn cael ei gyhoeddi’n ddienw, dywedwch hynny yn eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gallai amgylchiadau godi pan fydd rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfathrebu gwybodaeth i drydydd parti mewn ymateb i gais, er mwyn cydymffurfio â’i hymrwymiadau statudol. Mae hyn yn cynnwys ei hymrwymiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a’r Rheoliad Gwybodaeth Amgylcheddol 1992. I gael rhagor o fanylion am God Ymarfer y Cynulliad wrth ymdrin â cheisiadau am fynediad at wybodaeth y mae’n ei dal ymwelwch â’n gwefan:
www.information.wales.gov.uk.

Manylion Cyswllt

Anfonwch eich ymatebion i’r ymgynghoriad drwy e-bost i:
WEFO-R&DEIA@wales.gsi.gov.uk

Mae’n well gennym ni dderbyn e-bost, ond os dymunwch, cewch anfon sylwadau i:

Kathryn Helliwell
Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Swyddfa Merthyr Tudful
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y broses ymgynghori, cysylltwch â Kathryn Helliwell drwy e-bost yn y cyfeiriad uchod, neu drwy ffonio01985 729349.

Dogfennau ymgynghori