Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghori ynghylch y cynigion ar gyfer Rheoliadau Diogelu Iechyd yng Nghymru

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio’ch barn chi ynghylch y rheoliadau drafft i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag clefydau heintus neu halogiad gan gemegau neu ymbelydredd.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 04/11/2009
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 13/01/2010

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi manylion y cynigion ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae hyn yn parhau’r broses o foderneiddio deddfwriaeth gwarchod iechyd yng Nghymru.

Ymgynghorir ynghylch tair set o reoliadau.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu)

Y gofynion ar ymarferwyr meddygol cofrestredig a labordai sy’n profi samplau dynol i roi gwybod am achosion o glefydau heintus neu halogiad sy’n achosi, neu a allai achosi, niwed sylweddol i iechyd pobl, er mwyn gallu ymchwilio ac ymateb yn brydlon.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Gorchmynion Rhan 2A)

Y trefniadau diogelu i’w cymhwyso pan fo Ynad Heddwch yn gwneud gorchymyn i osod cyfyngiadau neu ofynion ar rywun er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, a hysbysu ynghylch ceisiadau am orchmynion.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol)

Pwerau sefydlog a dyletswyddau’r awdurdodau lleol mewn perthynas â’u swyddogaeth diogelu iechyd, lle nad oes angen goruchwyliaeth farnwrol Ynad Heddwch.

Byddai’n well gennym pe bai’r ymateb yn cael ei anfon atom yn electronig, trwy atodi’r ffurflen i e-bost.

Rheoliadau Diogelu Iechyd yng Nghymru - Adroddiad ar yr ymgynghoriad

Mae' ddogfen hon yn crynhoi'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad a'r camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n bwriadu eu cymryd yn awr ar ôl pwyso a mesur yr ymatebion.  

Y bwriad yw y bydd y rheoliadau'n dod i rym ar Orffennaf 5 2010  (ag eithrio rhai darpariaethau a geir yn y Rheoliadau Hysbysu yr arfaethir y byddant yn dod i rym ar Hydref 1 2010) a hynny yn amodol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru.