Skip to content

Ymgynghori

Adnoddau Naturiol Cymru – Trefniadau Arfaethedig ar gyfer Sefydlu a Chyfarwyddo Corff Newydd i Reoli Adnoddau Naturiol Cymru

Rydym am gael eich barn am y trefniadau arfaethedig i sefydlu a chyfarwyddo corff newydd ar gyfer adnoddau naturiol Cymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 09/02/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 02/05/2012

Mae’r ymgynghoriad hwn am gael barn ar:

  • Ein cynigion cyffredinol;
  • Ein cynigion ar gyfer gweithredu’r newidiadau cyfreithiol sydd eu hangen i sefydlu corff newydd;
  • Ein huchelgais ar gyfer y corff newydd a’i bwrpas cyffredinol; 
  • Ein trefniadau arfaethedig i gysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys dulliau o sicrhau atebolrwydd a thryloywder yng ngwaith y corff newydd;
  • Ein cynigion ar gyfer prif swyddogaethau a phwerau’r corff;
  • Ein cynigion ar gyfer statws y corff a sut y caiff ei lywodraethu, gan gynnwys trefniadau ar gyfer bwrdd gweithredol a chysylltu’n ehangach â rhanddeiliaid; a
  • Sut rydyn ni’n bwriadu datblygu materion sy’n gysylltiedig â llywodraethu trawsffiniol a sut y bydd y corff yn gwbl atebol i Weinidogion.