Skip to content

Ymgynghori

Dyddiadau tymhorau ysgol: Cynigion ar gyfer diwygio’r ffordd y mae dyddiadau tymhorau ysgol yn cael eu pennu ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sylwadau am gynigion i newid sut mae dyddiadau tymor ysgol yn cael eu pennu.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 03/09/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 26/11/2012

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu teuluoedd sy’n cael problemau oherwydd bod dyddiadau tymor ysgol, ac felly gwyliau ysgol, yn amrywio ledled Cymru.

Ein bwriad yw cysoni dyddiadau tymor ysgol ar gyfer yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru, fel nad ydynt fel arfer yn amrywio, a’u bod yn gwneud hynny dim ond pan fo cyfiawnhad llawn.

Rydym o’r farn y gellir cyflawni hyn trwy sicrhau bod y sefydliadau, sy’n gyfrifol ar hyn o bryd am bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer yr holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru, yn cydweithio i gytuno ar ddyddiadau tymor ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mewn achosion lle nad yw hynny’n digwydd, neu lle mae rheswm da dros newid dyddiadau tymor ysgol y cytunwyd arnynt, mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd i sicrhau bod dyddiadau priodol yn cael pennu.

Rhoddir disgrifiad o’r cynigion diwygio hyn yn y ddogfen ymgynghori isod.