Skip to content

Ymgynghori

Cofrestru a monitro addysg yn y cartref

Nod y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yw cyflwyno cynllun cofrestru gorfodol a monitro plant sy’n cael eu haddysgu yn y cartref.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 03/09/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 23/11/2012

Mae gan bob plentyn hawl sylfaenol i gael addysg. Mae dyletswydd ar rieni plant oedran ysgol gorfodol i sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg briodol. Mae llawer o ddatblygiad cynnar y plentyn yn digwydd yn gyfan gwbl yn y cartref. Wrth i’r plentyn dyfu a datblygu, mae’r rhan fwyaf o rieni’n dewis ei anfon i’r ysgol. Fodd bynnag, mae rhai’n dewis addysgu eu plentyn yn y cartref.

Bydd yr ymgynghoriad am gyfnod o 12 wythnos, a gofynnir am unrhyw ymatebion erbyn 23 Tachwedd 2012. Yn ychwanegol, cynhelir rhai gweithdai hefo hwyluswyr er mwyn casglu sylwadau plant a phobl ifanc ar y cynigion. Os hoffech fynychu un o’r gweithdai gallwch gofrestru eich diddordeb trwy anfon e-bost i wellbeingshare@wales.gsi.gov.uk.