Skip to content

Ymgynghori

Creu Cymru egnïol: Ymgynghoriad ar y ddogfen rolau a chyfrifoldebau

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu’r ddogfen ddrafft ganlynol i ddangos sut y gall mudiadau a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru gyfrannu at yr ymgyrch i annog pobl i fod yn egnïol.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 13/01/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 09/04/2010

Rydym yn awyddus i gael sylwadau’r mudiadau a’r grwpiau proffesiynol a enwir yn y ddogfen i sicrhau ein bod yn cydnabod ehangder y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes hwn.

Camau blaenoriaeth

Cytunwyd ar gamau blaenoriaeth dan bedwar nod strategol.

  • Amgylchedd egnïol: datblygu a chynnal amgylchedd ffisegol sy’n ei gwneud hi’n haws ac yn ddiogelach i bobl ddewis bod yn fwy egnïol
  • Plant a phobl ifanc egnïol: cefnogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau egnïol a dod yn oedolion egnïol
  • Oedolion egnïol: annog rhagor o oedolion i fod yn fwy egnïol, yn fwy aml, gydol eu hoes
  • Chwaraeon i bawb: cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon, ym mhob rhan o’r boblogaeth