Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghori ar Drechu Hawddfreintiau a Hawliau Eraill

Rydym yn ceisio barn am ein cynigion i ddiwygio pwerau Gweinidogion Cymru i drechu hawliau eiddo sy'n rhwystro datblygiad.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 14/12/2010
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 08/03/2011

Y Cefndir

Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru brynu'n orfodol dir a hawliau newydd sy'n angenrheidiol i helpu i gyflwyno gwelliannau cymdeithasol ac economaidd. Mae’r pwerau hynny yn cynnwys y gallu i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill sy’n bodoli eisoes, o ran y tir y maent yn berchen arno, pan fo'r hawliau hynny yn rhwystro datblygiad sydd â chaniatâd cynllunio. 

Yn ddiweddar, cafodd pwerau cyffelyb mewn statudau eraill, fel Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, eu diwygio yn Lloegr gan Ddeddf Cynllunio 2008. Roedd y Ddeddf hon yn rhoi awdurdod i Weinidogion Cymru ddiwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 yn yr un modd.

Y sefyllfa bresennol a'r datrysiad arfaethedig

Yn sgil dyfarniad gan y Llys ym 1998, bu amheuaeth i ba raddau y mae'r pwerau yn diddymu rhwystrau a achosir gan hawddfreintiau a hawliau sy'n bodoli eisoes. Penderfynwyd bod y pwerau yn gymwys i’r gwaith a nodwyd yn y statud yn unig, ac nid i’r hawl ddealledig i ddefnyddio'r eiddo pan fo’r defnydd hwnnw yn torri hawliau sydd eisoes yn bodoli.

Y cynnig yw, yn amodol ar ddilyn gweithdrefn penderfyniad cadarnhaol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y dylai Gweinidogion Cymru ddiwygio Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 i'w galluogi i drechu hawddfreintiau a hawliau sy'n bodoli eisoes a fyddai’n rhwystro unrhyw ddefnydd sydd â chaniatâd cynllunio. Yn yr un modd â threchu pwerau eraill, byddai hyn yn amodol ar dalu iawndal.

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Mae'r papur ymgynghori yn egluro'r cynigion, ond os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y pwnc, cysylltwch ag Adrian Edwards, fel a nodir yn y papurau ymgynghori.