Skip to content

Sgrinio

Curo canser ceg y groth

Sgrinio

Nid yw’r Brechlyn yn diogelu rhag pob math o HPV sy’n achosi canser.

Am y rheswm hwn mae’n bwysig fod menywod yn parhau i gael profion ceg y groth yn rheolaidd, gan eu bod yn canfod newidiadau a allai ddatblygu’n ganser ceg y groth. Mae’n bosibl trin y newidiadau hyn yn ddidrafferth ac yn llwyddiannus. Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gwahodd menywod 20 oed a throsodd ar gyfer prawf sgrinio (prawf ceg y groth) bob 3 blynedd er mwyn chwilio am y newidiadau hyn.

Golyga prawf ceg y groth gymryd sampl fechan o gelloedd o geg y groth â brwsh bach iawn.  Mae profion ceg y groth yn achub dros 1000 o fywydau yn y DU bob blwyddyn. Eto i gyd, mae tua 1500 o fenywod yn marw o ganser ceg y groth yn flynyddol yn y DU.

Cewch ragor o wybodaeth am sgrinio o wefan Sgrinio Serfigol Cymru (cyswllt allanol).