Skip to content

Beth yw’r brechlyn HPV?

Curo canser ceg y groth

Beth yw’r brechlyn HPV?

Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn feirws cyffredin iawn.

Mae'n cael ei ddal drwy gael cyfathrach rywiol â pherson arall sydd eisoes â'r feirws.

Nid yw’r rhan fwyaf o’r menywod a gaiff eu heintio â HPV yn datblygu canser ceg y groth. Nid yw menywod fel arfer yn gwybod eu bod wedi cael eu heintio oherwydd nad oes ganddynt unrhyw symptomau.

Mae’r brechlyn yn diogelu rhag y ddau fath o feirws sy’n achosi’r rhan fwyaf o achosion o ganser ceg y groth ond nid yw’n diogelu rhag pob feirws HPV.

Mae’r feirws yn mynd i’r celloedd ar yr wyneb yng ngheg y groth lle gall aros am sawl blwyddyn heb achosi unrhyw niwed. Yna, am ddim rheswm amlwg, gall ddechrau niweidio’r celloedd hyn. Gall sgrinio serfigol (profion ceg y groth) ganfod y newidiadau hyn, ac os cânt eu canfod yn ddigon cynnar, gallant gael eu trin er mwyn ceisio atal canser rhag datblygu. Os na chânt eu trin, gall canser ddatblygu a gallant arwain at salwch difrifol a marwolaeth.  Ceir dros 100 gwahanol fath o HPV ond dim ond 13 math y gwyddys eu bod yn achosi canser.


 

Dolenni perthnasol

Bydd y rhan fwyaf o ferched cymwys yn derbyn y pigiad rhag Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn yr ysgol.