Skip to content

Beth yw canser ceg y groth?

Curo canser ceg y groth

Beth yw canser ceg y groth?

Feirws Papiloma Dynol (HPV) sy’n gyfrifol am 99% o achosion o ganser ceg y groth - haint ydyw a all ledu o berson i berson wrth gael rhyw.

Mae canser ceg y groth yn effeithio ar geg y groth (y fynedfa i’r groth a geir ar ben uchaf y wain).

Wterws a ceg y groth

Mae tua 100 o wahanol fathau o HPV ond dim ond 13 ohonynt y gwyddys eu bod yn achosi canser ceg y groth a dim ond dau – math 16 ac 18 – sy’n achosi dros 70% o’r achosion. 

Gall clywed am brofiad pobl eraill o HPV a chanser ceg y groth helpu rai pobl i ddeall yn well. Gwrandewch ar fam yn siarad am golli ei merch i ganser ceg y groth (cyswllt allanol, Saesneg yn unig).

Mae fwy o wybodaeth ar ganser ceg y groth ar gael mewn ffurflenni gwybodaeth am HPV.

Dolenni perthnasol

Bydd y rhan fwyaf o ferched cymwys yn derbyn y pigiad rhag Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn yr ysgol.
Dangos sut y mae'r feirws yn mynd i mewn i'r corff, gan heintio ei gelloedd.