Alla'i gael y brechlyn?
Os ydych wedi colli unrhyw frechiad mynnwch air â nyrs yr ysgol.
Caiff menywod ifanc a aned rhwng 1 Medi 1990 a mis Awst 1995 ac sy'n dal i fod yn gymwys gynnig 3 brechiad dros 6 mis, fel rhan o'r ymgyrch dal i fyny untro. Anogir menywod ifanc sydd heb gael gwahoddiad, neu sydd heb gwblhau'r cwrs 3 dos, i gysylltu â'u Meddyg Teulu ar unwaith. Mae'r ymgyrch dal i fyny ar gyfer y grŵp hwn wedi'i hestyn tan 31 Awst 2011.
Diben y rhaglen imiwneiddio rhag HPV yw cynnig y brechlyn i’r merched o oedran a fydd yn elwa fwyaf arno. Er bod y brechlyn wedi’i drwyddedu i’w roi i fenywod hyd at 25 oed, ni chaiff ei gynnig fel arfer i fenywod dros 18 oed.
Serch hynny, gallai menywod dros 18 oed nad ydynt wedi dod i gysylltiad â HPV elwa ar y brechlyn. Mae’r menywod hyn yn debygol o fod un ai’n wyryfon neu heb ddod i gysylltiad â HPV drwy gyswllt rhywiol agos.
Os ydych rhwng 18 a 25 oed a’ch bod yn teimlo y gallech elwa ar y brechlyn mae croeso i chi drafod y mater â’ch Meddyg Teulu.
Menywod 26 oed a throsodd
Diben y rhaglen imiwneiddio rhag HPV yw cynnig y brechlyn i’r merched o oedran a fydd yn elwa fwyaf arno. Nid yw’r brechlyn a ddefnyddir yn y rhaglen wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio gyda menywod hyn (dros 25 oed). Gall menywod ddiogelu eu hunain rhag y feirws (a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol) drwy ddulliau eraill.
Dylai menywod sy’n cael rhyw sicrhau eu bod yn gwneud hynny’n ddiogel er mwyn lleihau’r risg o ddal HPV neu unrhyw haint arall a drosglwyddir yn rhywiol.
Dynion a bechgyn
Diben y rhaglen imiwneiddio rhag HPV yw diogelu merched a menywod ifanc rhag canser ceg y groth. Nid yw bechgyn yn datblygu canser ceg y groth (oherwydd nad oes ganddynt geg y groth), ac er y gall HPV achosi canser y pidyn neu’r anws mae achosion o’r fath yn brin iawn. Trwy ddiogelu merched rhag y ddau brif achos o ganser ceg y groth, yn y pen draw bydd llai o feirysau ar led. Golyga hyn y bydd pawb yn fwy diogel ac y bydd y risg o fechgyn yn cael eu heintio gan y feirysau hyn yn lleihau. Bydd yn bwysig o hyd bod pobl sy’n cael rhyw yn deall pwysigrwydd rhyw mwy diogel fel eu bod yn deall sut i leihau risg dal HPV a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol a’u lledu.
Os hoffech ragor o wybodaeth am iechyd rhywiol siaradwch â’ch nyrs neu’ch meddyg, neu ewch i un o’r gwefannau a restrir isod:
Cyngor ar iechyd rhywiol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
Pa mor ddiogel yw eich rhyw? (Cyswllt allanol, Saesneg yn unig)
