Skip to content

Hafan

Curo canser ceg y groth

Hafan

Mae brechlyn newydd ar gael a fydd yn diogelu merched a menywod ifanc rhag achos mwyaf cyffredin canserau ceg y groth.

Caiff y brechlyn ei gynnig i bob merch rhwng 12 a 13 oed (blwyddyn 8 yn yr ysgol), a rhoddir y cwrs llawn o dri dos yn ystod y flwyddyn ysgol.

 

Mae merched a menywod ifanc a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 1990 ac Awst 1995 yn parhau i fod yn gymwys i gael eu brechu rhag HPV. Mae'r ymgyrch ôl-frechu yn cael ei hymestyn tan 31 Awst 2011. Anogir menywod ifanc nad ydynt wedi'u gwahodd i gael y brechlyn, neu nad ydynt wedi cwblhau'r cwrs 3 dos, i gysylltu â'u meddyg teulu ar unwaith.

 

I gael cyngor a gwybodaeth ddiduedd, ffoniwch linell gymorth Galw Iechyd Cymru ynghylch HPV ar 0845 602 3303 neu ewch i GIG Cymru (dolen allanol)

Dolenni perthnasol

Bydd y rhan fwyaf o ferched cymwys yn derbyn y pigiad rhag Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn yr ysgol.