Skip to content

Esbonio'r sefydliad

Dolenni perthnasol

Mae Atodlen 7 yn rhestru'r pynciau sydd yn yr 20 maes datganoledig mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu pasio Deddfau Cynulliad ynddo.
Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC yw Prif Weinidog Cymru
Ar y dudalen hon gallwch weld gwybodaeth am Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am Weinidogion y Cabinet, am Ddirprwy Weinidogion ac am y Cwnsler Cyffredinol.
Pobl yn y derbynfa
Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, sy’n creu polisïau a chyfreithiau ar gyfer ein gwlad. Mae Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Prif Weinidog Cymru, yn gyfrifol am feysydd fel iechyd, addysg, iaith a diwylliant a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru yn gorff ar wahân i Lywodraeth Prydain, sy’n parhau i fod yn gyfrifol am faterion sy’n berthnasol i’r Deyrnas Unedig gyfan, fel trethi, amddiffyn, polisi tramor a budd-daliadau.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Caiff Llywodraeth Cymru ei hethol gan bobl Cymru i weithredu rhaglen lywodraethu. Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau a sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu, o fewn y meysydd sydd wedi'u datganoli i ni, ar faterion sy'n effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd (am ragor o wybodaeth ar y 20 maes datganoledig, gweler y Dolen berthnasol Atodlen 7).

Rydym ni’n gwneud hynny drwy:

  • ddatblygu a gweithredu polisïau
  • sefydlu ac arwain y dulliau gweithredu a’r trefniadau llywodraethu yn y meysydd allweddol hyn, fel llywodraeth leol a’r GIG yng Nghymru
  • llunio is-ddeddfwriaeth (e.e. rheoliadau a chanllawiau statudol)
  • cynnig cyfreithiau Cymru (Biliau’r Cynulliad).

Pwy ydyn ni

Prif Weinidog Cymru sy’n arwain Llywodraeth Cymru. Y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yw aelodau’r Cabinet.

Cânt eu cefnogi gan weision sifil sy’n gweithio mewn swyddfeydd ledled Cymru i ddatblygu a chyflawni eu gwaith.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu penodi hyd at 12 o Weinidogion a Dirprwy Weinidogion. Mae hyn yn golygu na chaiff mwy nag 14 o bobl fod yn rhan o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol.

Beth yw’r gwahaniaeth rhyngom

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gofalu am wahanol fuddiannau yng Nghymru. Rydym ni’n gyfrifol am y rhan fwyaf o faterion dydd i ddydd, fel iechyd, addysg, amaethyddiaeth a llywodraeth leol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gofalu am feysydd eraill fel amddiffyn, trethi, pensiynau a budd-daliadau.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a’r staff cymorth yn Swyddfa Cymru, sy’n cynrychioli llais Cymru o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.