Skip to content

Hanes Llywodraeth Ddatganoledig yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Ar y dudalen hon gallwch weld gwybodaeth am Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am Weinidogion y Cabinet, am Ddirprwy Weinidogion ac am y Cwnsler Cyffredinol.
Mae’r dudalen hon yn nodi prif ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ym 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid datganoli. Yn dilyn y refferendwm llwyddiannus, arweiniodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 at greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y 60 Aelod Cynulliad sy'n cael eu hethol gan y cyhoedd sy'n ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Prif Weinidog a'r Cabinet gyda'i gilydd yn ffurfio Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn ail Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006), cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y grym i ofyn am ganiatâd i greu deddfwriaeth ar faterion sydd wedi'u datganoli ar ffurf Mesurau'r Cynulliad. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n parhau i ofalu am feysydd eraill fel amddiffyn a threthi.

Roedd Deddf 2006 hefyd yn sefydlu Llywodraeth Cymru, sef corff gweithredol ar wahân i'r ddeddfwrfa, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae yna 11 o Weinidogion Cabinet a Dirprwy Weinidogion yn Llywodraeth Cymru. Mae ei waith yn effeithio ar y rhan fwyaf o agweddau o fywyd bob dydd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, trafnidiaeth a llywodraeth leol.

Ar 3 Mawrth 2011 cynhaliwyd refferendwm pellach ac fe bleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi rhagor o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae hyn yn golygu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gwneud deddfau yn uniongyrchol ym mhob un o'r 20 maes y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Bellach, nid oes yn rhaid iddo ofyn am ganiatâd Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn gwneud hynny.

Fe nodir yr 20 maes datganoledig, gan gynnwys amaethyddiaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd, tai a llywodraeth leol yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am y meysydd sydd heb eu datganoli o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys trethiant cyffredinol, amddiffyn a materion tramor a nawdd cymdeithasol.