Skip to content

Hanes a ffeil ffeithiau

Dolenni perthnasol

Dyma'r mesur swyddogol o amddifadedd perthnasol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn gosod dangosyddion iechyd, addysg ac agweddau eraill o fywyd ochr yn ochr â ffigurau ar gyfer gwledydd eraill.
Helaeth o wybodaeth ystadegol am Gymru.
Llansteffan
Gwybod mwy am bobl, diwylliant, iaith a thirwedd Cymru.

Daearyddiaeth

  • Cyfanswm arwynebedd tir Cymru yw 20,779 km² (8,023 milltir sgwâr), ac mae tua 80% o hwn yn dir amaeth.
  • Mae'r wlad yn mesur 274km (170 milltir) o'r gogledd i'r de, a 96km (60milltir) o'r dwyrain i'r gorllewin yn ei bwyntiau byrraf, gydag arfordir o 1200km (750 milltir).
  • Mae iddi 3 Pharc Cenedlaethol, 3 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, 41 o draethau Baner Las a 6 o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Poblogaeth

  • Mae ychydig dros 3.1 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, gyda dwysedd poblogaeth o 150 o bobl fesul km². Mae tua 1 ym mhob 20 o boblogaeth y DU yn byw yng Nghymru, sydd â 1.3 miliwn o gartrefi. 
  • Y disgwyliad oes yng Nghymru yw 77.6 oed i ddynion a 81.8 oed i fenywod.

Iaith

  • Mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol yng Nghymru, gyda  19% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, un o ieithoedd byw hynaf Ewrop.
  • Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad yn eang ledled y wlad a dyma'r iaith gyntaf mewn nifer o ardaloedd - yn arbennig yn y gogledd a'r gorllewin. Mae gorsafoedd radio a theledu cenedlaethol yn darlledu yn Gymraeg; mae arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog; mae pob plentyn ysgol yn astudio Cymraeg new y bydd yn 16 oed, a cheir ysgolion, llyfrau, papurau newydd a gwefannau Cymraeg.

Dinasoedd

  • Mae gan Gymru 6 dinas; Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Bangor, Tyddewi a Llanelwy. Y mwyaf o’r rhain yw Caerdydd gyda phoblogaeth o 346,100, mae gan Abertawe 239,000 tra bod gan Gasnewydd 145,700.

Yr Economi

  • Cyfanswm y Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) yng Nghymru yn 2011 oedd £47.3 biliwn. Roedd y GYC fesul pen yng Nghymru yn 2011 yn £15,696.
  • Cyfanswm allforion yn y pedwar chwarter hyd at a chan gynnwys chwarter 3 2012 oedd £ 13.0 biliwn, a’r 3 uchaf oedd: Petrolewm, Cynhyrchion Petrolewm a Deunyddiau Cysylltiedig (£ 4.2b), Peiriannau Cynhyrchu Pŵer ac Offer (£ 2.9b) a Haearn a Dur (£ 1.2b).

Addysg

  • Erbyn hyn mae 10 prifysgol yng Nghymru ac yn 2011/12 roedd 131,185 o fyfyrwyr wedi'u cofrestru mewn sefydliadau Addysg Uwch. Mae 18 o golegau Addysg Bellach a sefydliadau sy'n darparu ar gyfer bron i 180,000 o ddysgwyr.
  • Ym mis Ionawr 2012 roedd 1,676 o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, gydag ychydig dan 466,000 o ddisgyblion. Mae dros 500 o ysgolion yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fis Ionawr 2012 roedd 56 o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, gyda 41,252 o ddisgyblion.

Ystadegau Addysg ar wefan StatsWales

Crynodeb Economi & farchnad lafur ar wefan StatsWales