Skip to content

Datblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Dolenni perthnasol

Cyfle i ddweud eich dweud am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru.
Mae ymchwil gymdeithasol yn llywio'r broses o weithredu polisïau, yn dangos beth y mae pobl yn ei feddwl amdanynt ac yn ein helpu i ddeall y canlyniadau.
Ar y dudalen hon cewch wybodaeth am Uned Ymchwil Economaidd Llywodraeth Cymru.
Helaeth o wybodaeth ystadegol am Gymru.
Yn yr adran hon, cewch wybod sut rydym yn casglu'r wybodaeth a'r dystiolaeth sydd eu hangen ar ein harbenigwyr polisi i ddatblygu polisïau a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl Cymru. Rydym yn sicrhau ein bod yn gwrando ar y bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau, yn profi ein cynigion yn drylwyr ac yn eu gwerthuso ar ôl eu rhoi ar waith.

Ymchwil gymdeithasol

Mae'r Is-adran Ymchwil Gymdeithasol yn rheoli rhaglen fawr o ymchwil gymdeithasol bob blwyddyn. Mae eu gwaith yn ein helpu i ddeall bywydau pobl yng Nghymru, yr heriau y maent yn eu hwynebu a'u dyheadau. Yn ogystal, mae'r tîm yn ein helpu i wella'r ffordd rydym yn rhedeg ein sefydliad drwy gynnal arolwg ymhlith staff bob blwyddyn. Maent yn sicrhau bod safonau proffesiynol uchel yn cael eu cynnal ar draws Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil gymdeithasol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein rhaglen ymchwil gymdeithasol, gan gynnwys canlyniadau arolygon, yn nhudalennau'r Is-adran Ymchwil Gymdeithasol..

Ymchwil economaidd

Mae ein Rhaglen Ymchwil Economaidd yn mynd i’r afael â materion datblygu economaidd yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnwys agweddau ar adfywio cymunedol, datblygu gwledig, addysg a dysgu gydol oes, yr amgylchedd, cynllunio, trafnidiaeth a'r agweddau ar y farchnad lafur sy’n ymwneud ag iechyd.

Gallwch ddarllen mwy am ein rhaglen ymchwil economaidd, gan gynnwys canlyniadau’r arolygon, drwy fynd i’r dudalen Ymchwil Economaidd.

Ystadegau

Gwyddom fod ystadegau dibynadwy yn sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau, cynnal gwaith ymchwil a chefnogi dadleuon. Caiff ein hystadegau eu defnyddio gan ystod eang o unigolion a sefydliadau yng Nghymru i ennyn dealltwriaeth well o'r hyn sy'n digwydd yn ein gwlad. Fel gweision sifil, rydym yn defnyddio ein hystadegau i baratoi'r cyngor rydym yn ei roi i Weinidogion ac i lywio'r gwasanaethau a ddarperir gennym.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn yn yr adran Ystadegau ar ein gwefan.

Ymgynghori

Ymarferion ffurfiol yw ymgynghoriadau a gynhelir i gasglu sylwadau pobl a sefydliadau ar y pethau y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu eu gwneud. Ceir rhagor o wybodaeth am ymgynghoriadau, gan gynnwys y rheini a gynhelir ar hyn o bryd, ar y dudalen Ymgynghori.