Skip to content

Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru

Swyddfa
Mae ein gweision sifil yn gwasanaethu Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion Cymru, gan eu helpu i wella lles cyffredinol pobl a chymunedau yng Nghymru.

Yn yr adran hon, cewch wybod beth rydym yn ei wneud, sut rydym yn mynd ati i wneud ein gwaith a sut rydym yn rheoli ein sefydliad.

Pwy ydym ni

Mae Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wedi dod yn bell iawn ers datganoli ym 1999, gan dyfu o adran o’r llywodraeth a oedd yn gwasanaethu Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan i sefydliad o oddeutu 5,590 o staff sy'n gwasanaethu Gweinidogion Cymru ym Mae Caerdydd o swyddfeydd ar draws Cymru.

Ein cenhadaeth

Mae egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ganolog i'n gwaith ni fel sefydliad. Yng Nghymru, mae datblygu cynaliadwy yn golygu gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau a gwella ansawdd bywyd ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r egwyddorion hyn yn llywio'r penderfyniadau hirdymor a wnawn sy'n effeithio ar y cymunedau y mae pobl yn byw ynddynt, yr addysg a'r swyddi sydd ar gael a'r math o gymdeithas y caiff pobl eu magu ynddi.

Y gwaith rydym yn ei wneud 

Mae ein pobl yn gweithio mewn dros 25 o wahanol broffesiynau. Rydym yn darparu'r amrywiaeth eang o arbenigedd sydd ei angen ar Weinidogion Cymru i ddatblygu deddfwriaeth a pholisïau effeithiol a datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn cydweithio'n agos â llywodraeth leol, y trydydd sector ac ystod o sefydliadau eraill yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio gydag Adrannau Llywodraeth y DU yn Whitehall i gydgysylltu ein gwaith a rhannu arbenigedd.

Mae ein gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru, o drafnidiaeth i ofal iechyd, ac o dwristiaeth i addysg. 

Ein swyddfeydd

Mae ein swyddfeydd wedi'u lleoli yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethau ar draws Cymru. Rhwng 2006 a 2010, agorwyd swyddfeydd newydd ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno yn rhan o raglen adeiladu i ddod â'n gwaith yn nes at bobl Cymru. Yn yr un cyfnod, rydym wedi ad-drefnu ein hystâd er mwyn sicrhau'r gwerth gorau o'r adeiladau a ddefnyddir gennym.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein swyddfeydd yn defnyddio ynni’n effeithlon ac yn ein helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gwaith hyd yma a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ein Adroddiad ar Gyflwr yr Ystad 09/10.